Merched y Wawr
Sefydliad gwirfoddol, anwleidyddol i fenywod drwy gyfrwng y Gymraeg / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Merched y Wawr yn fudiad Cymreig a Chymraeg sy'n rhoi'r cyfle i fenywod i gymdeithasu trwy drefnu teithiau, cyngherddau a chyfarfodydd. Sefydlwyd y mudiad yn 1967 yn dilyn anfodlonrwydd ymysg rhai aelodau o Sefydliad y Merched gyda natur uniaith Saesneg y mudiad hwnnw.[1][2][3] Mae dros 250 o ganghennau yng Nghymru, ac fe gyhoeddir y cylchgrawn Y Wawr pedair gwaith y flwyddyn.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Dechrau/Sefydlu ...
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1967 ![]() |
Pencadlys | Aberystwyth ![]() |
Gwladwriaeth | Cymru ![]() |
Gwefan | http://merchedywawr.cymru/ ![]() |
Cau
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/81/Ras_yr_Iaith_2014_MyW_-_Shortcut.jpg/220px-Ras_yr_Iaith_2014_MyW_-_Shortcut.jpg)
Yn 1994 aethpwyd ati i ddechrau sefydlu Clybiau Gwawr er mwyn denu aelodau ieuanc i’r mudiad.[4]
Yn 1975, gadawodd Zonia Bowen, prif sylfaenydd a Llywydd Anrhydeddus y mudiad oherwydd ei gwrthwynebiad i le crefydd yng nghyfarfodydd swyddogol y mudiad.[3]