Menter Cwm Gwendraeth Elli
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ym 1991, Menter Cwm Gwendraeth Elli oedd y Fenter Iaith gyntaf i'w sefydlu yng Nghymru.[1]
Enghraifft o'r canlynol | Menter Iaith |
---|
Daeth i fodolaeth yn dilyn bwrlwm mawr Eisteddfod yr Urdd Cwm Gwendraeth yn Cross Hands, Sir Gaerfyrddin, ym 1989, pan benderfynodd grŵp o wirfoddolwyr lleol bod angen gweithredu ar lefel leol i atal dirywiad y Gymraeg mewn ardal a oedd â chyfran a nifer uchel iawn o siaradwyr Cymraeg.
Ym Mawrth 2002, agorwyd canolfan newydd y Fenter ym Mhontyberem, yng nghanol ardal y Gwendraeth gan yr AC Edwina Hart. Mae'r Ganolfan Adnoddau'n cynnwys caffi cymunedol, sef Caffi Cynnes a chanolfan hyfforddi ar wahân i swyddfeydd staff. Ychwanegwyd i hyn yn 2014 pan symudodd siop y Fenter 'Cwtsh Gloyn' i fod yn rhan o'r caffi. Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli bellach yn gweithredu yn Llanelli yn ogystal â Chwm Gwendraeth ac maent yn parhau i weithredu ar brosiectau iaith yn benodol, yn ogystal ag ar ddatblygu cymunedol yn gyffredinol.
Ers lansiad Menter Cwm Gwendraeth Elli, mae 21 o fentrau iaith lleol wedi eu sefydlu, gan ddod yn elfen bwysig o strategaeth iaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae yna dair Menter Iaith yn gweithredu o fewn Sir Gaerfyrddin