Melin lanw
Melin sy'n defnyddio grym y llanw i weithredu peiriannau i falu grawn neu deunydd eraill. Gelwir hefyd yn felin môr. / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae melin lanw[1] neu, ceir hefyd melin fôr yn felin sy'n defnyddio pŵer y llanw i yrru ei fecanwaith i falu deunydd neu i gynhyrchu ynni er enghraifft trydan.
Mae melinau llanw fel arfer wedi'u lleoli mewn aberoedd, wedi'u hamddiffyn yn ddigonol rhag ymosodiad tonnau, ond ar yr un pryd yn agos at y môr, i dderbyn digon o rym gan y llanw. Mae melinau môr wedi bod yn boblogaidd yn Ewrop ers yr Oesoedd Canol, hyd yn oed ers cyfnod y Rhufeiniaid. Yr enghraifft mwyaf nodweddiadol hanesyddol yng Nghymru yw Melin Lanw Caeriw yn Sir Benfro.