From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae mefus pîn yn gyltifar mefus gwyn gyda hadau coch a blas tebyg i bîn-afal . [1]
Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Math | strawberry |
Safle tacson | rhywogaeth |
Rhiant dacson | Fragaria |
Enw brodorol | Pineberry |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae mefus pîn yn groes hybrid o Fragaria chiloensis a Fragaria virginiana. Mae'r ffrwyth yn llai o faint na mefus cyffredin, yn mesur rhwng 15 and 23 milimetr (0.59 and 0.91 mod) . Pan yn aeddfed, mae'r ffrwyth bron yn gyfan gwbl wyn, heblaw am yr achenau coch (yr hadau). Mae'r planhigyn yn gallu gwrthsefyll afiechydon, ac ar gyfartaledd yn uchel ei bris, er nad yw'n broffidiol oherwydd caiff mond ei ffermio ar raddfa fach, maint bach yr aeron a chynnyrch isel. [1][2] Caiff mefus pîn ei gynaeafu yn y gwanwyn a'r haf. Wedi'i nodi gyntaf yn Ne America tua 2002, caiff bellach ei dyfu yng Ngwlad Belg a'u hallforio o'r Iseldiroedd.[1][2]
Cafodd yr aeron ei alw'n "fefus pîn" ar gyfer marchnad y DU lle daeth ar gael yn 2010 i adlewyrchu ei flas tebyg i bîn-afal, tra'n dal i fod yn fefus.[3] Gwerthwyd yn fasnachol am y tro cyntaf yn yr Unol Daleithiau yn 2012,[4] a chawsant eu marchnata i fwytai, poptai/becws a marchnadoedd cyfanwerthu yn Ewrop a Dubai.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.