Mechtilde Lichnowsky
From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdures o'r Almaen oedd y Dywysoges Mechtilde Lichnowsky (8 Mawrth 1879 - 4 Mehefin 1958) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd ac awdur. Yn ddiweddarach yn ei hoes defnyddiai'r enw Mechtilde Peto.
Mechtilde Lichnowsky | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mawrth 1879 Schönburg |
Bu farw | 4 Mehefin 1958 Llundain |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, rhyddieithwr, dramodydd |
Tad | Maximilian Graf von Arco-Zinneberg |
Mam | Olga Baronin von Werther |
Priod | Karl Max, Prince Lichnowsky, Sir Ralph Peto |
Plant | Prince Wilhelm Lichnowsky, Countess Leonore Lichnowsky, Count Michael Lichnowsky |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Stadt München |
Ganed Mechtilde Christiane Marie Gräfin von und zu Arco-Zinneberg yn Schönburg, Pocking, Is-Bafaria a bu farw yn Llundain. Lleolir Pocking 30 km i'r de-orllewin o Passau, yn agos i'r ffin gydag Awstria.[1][2][3][4][5][6] Ei mam oedd y Fonesig Olga von Werther a'i thad oedd yr iarll Maximilian von a zu Arco-Zinneberg.
Yn 1904 priododd a'r tirfeddiannwr a'r diplomydd Karl Max, Fürst von Lichnowsky, 6ed tywysog ac 8fed iarll Lichnowsky (1860–1928) a ddilynodd ei dad yn 1901, ac a wasanaethodd fel Llysgennad Imperial yr Almaen yn Llys St Iago rhwng 1912 a 1914. Deuai'n wreiddiol o deulu'r Von Arco-Zinneberg, sef cangen o Deulu Tyrol yr Arco.
Bu'r ddau yn byw gyda'u tri plentyn yn Grätz cyn symud yn 1911 i'r Aifft.