cyfansoddwr a aned yn 1838 From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfansoddwr clasurol ac arweinydd cerddorfaol oedd Max Christian Friedrich Bruch a adnabyddir hefyd fel Max Karl August Bruch (6 Ionawr 1838 - 2 Hydref 1920).[1][2]
Max Bruch | |
---|---|
Ganwyd | Max Christian Friedrich Bruch 6 Ionawr 1838 Cwlen |
Bu farw | 2 Hydref 1920 Friedenau, Berlin |
Dinasyddiaeth | yr Almaen |
Addysg | Doethuriaeth mewn Cerddoriaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, arweinydd, athro |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Scottish Fantasy |
Arddull | opera, symffoni |
Priod | Clara Tuczek |
Plant | Max Felix Bruch |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Humboldt, Berlin, Urdd Maximilian Bafaria am Wyddoniaeth a Chelf, Pour le Mérite |
Cafodd ei eni yng Nghwlen, yr Almaen. Cantores oedd ei fam, Wilhelmine (née Almenräder), a chyfreithiwr oedd ei dad, August Carl Friedrich Bruch, a dfdaeth yn ddiweddarach yn bennaeth Heddlu Cwlen.[3]
Cyfansoddodd dros 200 o weithiau, gan gynnwys tri concerto i'r fiolin, sy'n cael ei derbyn fel un o'r gweithiau mwyaf i'r offeryn.
Bu'n dysgu cerdd am flynyddoedd, a dysgodd sut i arwain cerddorfa ac aeth o un swydd i swydd arall, weithiau'n dysgu, weithiau'n cyfansoddi, yn bennaf yn yr Almaen: Mannheim (1862–1864), Koblenz (1865–1867), Sondershausen, (1867–1870), Berlin (1870–1872), a Bonn, ble treuliodd 1873–78 yn gweithio'n breifat. Ar anterth ei yrfa, treuliodd dair blynedd gyda'r Royal Liverpool Philharmonic (1880–83). Rhwng 1890 a'i ymddeoliad yn 1910 dysgodd ym Mhrifysgol Berlin (Berlin Hochschule für Musik): cyfansoddi serddorol.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.