![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9c/Entrance_to_Wigmore_Castle_-_geograph.org.uk_-_1248482.jpg/640px-Entrance_to_Wigmore_Castle_-_geograph.org.uk_-_1248482.jpg&w=640&q=50)
Maud de Braose
merch fonheddig o deulu'r Mortimers / From Wikipedia, the free encyclopedia
Uchelwraig Seisnig oedd Maud de Braose, Baroness Mortimer neu Matilda de Braose (1224 – ychydig cyn 23 Mawrth 1301)[1] ac aelod o deulu pwerus de Braos (Cymreigiad: Brewys),[2] a oedd yn berchen llawer o dir Arglwyddiaethau'r Mers. Ei gŵr oedd Roger Mortimer, Barwn 1af Mortimer, milwr enwog a barwn.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Maud de Braose | |
---|---|
![]() Mynedfa adfeilion Castell Wigmore, Swydd Henffordd a fu'n gartef i Maud a Roger Mortimer. | |
Ganwyd | 1224 ![]() Cymru ![]() |
Bu farw | 23 Mawrth 1301 ![]() Swydd Henffordd ![]() |
Tad | Gwilym Brewys ![]() |
Mam | Eva Marshal ![]() |
Priod | Roger Mortimer, Barwn 1af Mortimer ![]() |
Plant | Edmund Mortimer, Roger de Mortimer, Isabella Mortimer, Margaret de Mortimer, Sir Ralph Mortimer, Sir William Mortimer, Sir Geoffrey Mortimer ![]() |
Llinach | Teulu Mortimer ![]() |
Cau
Roedd Maud a'i theulu'n deyrngar iawn i frenin Lloegr yn ystod Ail Ryfel y Barwniaid, a chynllwyniodd i ryddhau'r Tywysog Edward o grafangau Simon de Montfort, 6ed iarll Swydd Gaerlŷr.[3]