From Wikipedia, the free encyclopedia
Mudiad cymdeithasol sy'n ceisio helpu ffermwyr a gweithwyr mewn gwledydd datblygol i gael prisiau teg am eu cynnyrch a hyrwyddo cynaladwyedd ydy Masnach Deg. Mae'n canolbwyntio ar allforion celf a chrefft, coffi, siwgr, te, banana, mêl, cotwm, gwin[1], ffrwythau ffres, siocled, blodau ac aur.[2]
Enghraifft o'r canlynol | masnach, cangen economaidd, mudiad cymdeithasol |
---|---|
Math | masnach |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ar 11 Gorffennaf 2008 daeth Cymru'n 'Genedl Masnach Deg' gynta'r byd, pan lansiodd Llywodraeth Cymru ymgyrch i hyrwyddo’r defnydd o gynnyrch Masnach Deg. Ymhlith cefnogwyr yr ymgyrch hon roedd nifer o sefydliadau gan gynnwys Canolfan Cydweithredol Cymru, Oxfam Cymru, a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru.[3] Flwyddyn cyn hynny, pasiodd Llywodraeth Cymru 'Fesur Masnach Deg Cenedl Cymru', a nododd ei hymrwymiad i hyrwyddo arferion Masnach Deg a chefnogi cynhyrchwyr Masnach Deg.
Yn 2019, cynhaliwyd y 13eg Cynhadledd Trefi Masnach Deg Rhyngwladol yng Nghaerdydd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.