Marks & Spencer
cwmni prynnu a gwerthu / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cwmni adwerthu o'r DU sydd erbyn hyn yn perchen 843 o siopau mewn mwy na 30 o wledydd ar draws y byd yw Marks & Spencer Group plc (hefyd M&S, Marks and Spencers; Marks a Sparks neu Marks ar lafar). Lleolir 600 o'r 843 siop yn y DU. Marks yw'r adwerthwr dillad mwyaf yn y DU a'r 43fed fwyaf o gwmnïau adwerthu'r byd cyfan. Mae'r rhan fwyaf o'i siopau stryd mawr yng ngwledydd Prydain yn gwerthu bwyd a dillad ac mae wedi dechrau ehangu yn ddiweddar i gynnwys gwerthu nwyddau fel dodrefn hefyd.
Math | cadwyn o archfarchnadoedd |
---|---|
Math o fusnes | cwmni cyfyngedig cyhoeddus |
ISIN | US57069PAD42 |
Diwydiant | manwerthu |
Sefydlwyd | 1884 |
Sefydlydd | Michael Marks, Thomas Spencer |
Pencadlys | Leeds |
Pobl allweddol | Stuart Rose (Prif Weithredwr) |
Cynnyrch | dillad |
Lle ffurfio | Leeds |
Sefydlwyd y cwmni gan Michael Marks, mewnfudwr o ddinas Minsk (prifddinas Belarws heddiw) yn 1884 fel stondin farchnad yn Leeds, Lloegr. Heddiw mae'r pencadlys yn Llundain.
Yn 1998 Marks oedd yr adwerthwr cyntaf yn y DU i wneud elw cyn treth o dros over £1 biliwn. Ar ôl tyfu'n bur sylweddol yn y 2000au, wynebodd argyfwng yn haf 2008 gyda gwerth ei rhanddaliadau yn cwympo i lai na 50% eu gwerth blwyddyn cyn hynny, wrth i M&S geisio ymdopi ag ymateb ei gwsmeriaid i'r argyfwng credyd.