Dodrefn
From Wikipedia, the free encyclopedia
Taclau neu gelfi at wasanaeth tŷ yw dodrefn. Pethau symudol ydynt, sy'n cwrdd ag anghenion dynol megis cadeiriau er mwyn eistedd a gwelyau er mwyn cysgu, neu sydd o gymorth i bobl yn eu gweithgareddau yn y tŷ, er enghraifft i storio neu ddal pethau fel offer cegin neu ddillad. Mae'r term yn cynnwys dodrefn addurnol o bob math, sef unrhyw daclau neu gelfi sy'n rhoi pleser o'u gweld.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/dd/IKEA_Billy_bookshelf_%2880x106_cm_birch_veneer%29.jpg/640px-IKEA_Billy_bookshelf_%2880x106_cm_birch_veneer%29.jpg)