From Wikipedia, the free encyclopedia
Lleolir Marina Abertawe (hen enw ar ran o'r traeth yma oedd Cwts y Cŵn[1]) y tu ôl i forglawdd Bae Abertawe wrth aber Afon Tawe yn Abertawe, Cymru. Rhoddwyd statws baner las i'r marina ym Mehefin 2005 a derbyniodd bump angor euraidd wrth y Gymdeithas Hwylio Harbwr. Mae yno fuarth cychod ar gyfer adeiladu a trwsio cychod, ac ambell siop yn gwerthu offer hwylio.
Mae'r sefydliadau hwylio sydd wedi'u lleoli ym Marina Abertawe yn cynnwys Clwb Hwylio ac Is-ddwr Abertawe a'r Maiden Voyage, sydd yn berchen ar iot rasio môr 72 troedfedd o hyd.
Ar ôl blynyddoedd o ddirywiad yn niwydiannau trwm yng ngwaelod Cwm Tawe, caeodd Doc y De yn Nociau Abertawe ym 1969 gan adael yr ardal yn dir gwastraff. Gwerthwyd y tir i'r cyngor am swm bychan. I ddechrau, bwriadwyd adeiladu ffordd osgoi er mwyn lleihau'r trafnidiaeth ar Heol Ystumllwynarth. Fodd bynnag, yn sgil ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974 penderfynwyd ar strategaeth gynllunio newydd. Erbyn 1975, roedd y strategaeth newydd yn gyflawn a nodai amcanion cymdeithasol ac economaidd a fyddai'n adfywio'r ardal.
Cymrodd bum mlynedd arall i brynu'r tir, ei glirio a darparu'r adnoddau angenrheidiol er mwyn gallu ail-ddatblygu'r safle. Adeiladwy morgloddiadu newydd, cliriwyd gwaelod y dociau o unrhyw sbwriel a rhoddwyd angorau newydd ar gyfer y marina newydd.
Agorodd y marina ar gyfer cychod ym 1982 gan ddarparu lle ar gyfer 385 o gychod.
Fel rhan o'r datblygiadau ar gyfer Doc Tywysog Cymru, bydd 400 o lefydd ar gyfer cychod yn cael eu creu, gan olygu y bydd marina Abertawe yn medru dal dros 1,000 o gychod erbyn 2010.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.