![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e9/Portrait_Brutus_Massimo.jpg/640px-Portrait_Brutus_Massimo.jpg&w=640&q=50)
Marcus Junius Brutus
From Wikipedia, the free encyclopedia
Seneddwr Rhufeinig, sy'n fwyaf enwog am ei ran yn llofruddiaeth Iŵl Cesar, oedd Marcus Junius Brutus (85 CC - 42 CC).
Marcus Junius Brutus | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | c. 85 CC ![]() Unknown ![]() |
Bu farw | 23 Hydref 42 CC ![]() Philippi ![]() |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol ![]() |
Galwedigaeth | athronydd, bardd, gwleidydd hynafol, Rhufeinig ![]() |
Swydd | Praetor, quaestor, llywodraethwr Rhufeinig, praetor urbanus, seneddwr Rhufeinig ![]() |
Plaid Wleidyddol | optimates ![]() |
Tad | Marcus Junius Brutus the Elder, Quintus Servilius Caepio ![]() |
Mam | Servilia, Hortensia ![]() |
Priod | Claudia, Porcia ![]() |
Partner | Volumnia Cytheris ![]() |
Perthnasau | Calpurnius Bibulus, Decimus Junius Brutus Albinus ![]() |
Llinach | Junii Bruti ![]() |
Roedd Brutus yn fab i Marcus Junius Brutus yr Hynaf a Servilia Caepionis, a ddaeth yn gariad Cesar yn ddiweddarach. Mabwysiadwyd Brutus gan ei ewythr, Quintus Servilius Caepio. Pan ddatblygodd rhyfel cartref rhwng Pompeius Magnus a Iŵl Cesar, ochrodd gyda Pompeius. Wedi i Gesar ennill buddugoliaeth ym Mrwydr Pharsalus, ysgrifennodd at Gesar i'w gyfiawnhau ei hun, a maddeuodd Cesar iddo. Apwyntiodd Cesar ef yn llywodraethwr Gâl pan aeth ef i Affrica i ddelio a Cato a Metellus Scipio. Yn 45 CC, ysgarodd ei wraig gyntaf i briodi Porcia Catonis, merch Cato.
Erbyn hyn roedd nifer o seneddwyr yn pryderu fod Cesar yn dod yn rhy bwerus, a pherswadiwyd Brutus i ymuno â chynllwyn yn ei erbyn. Llofruddiwyd Cesar ar 15 Mawrth 44 CC. Ymddengys nad oes gwir yn y stori i Gesar ddweud Et tu, Brute? ("Tithau hefyd, Brutus?").
Yn dilyn y llofruddiaeth bu ymgipryd am rym yn Rhufain. Gadawodd Brutus y ddinas a byw ar ynys Creta hyd 42 CC, ond yna casglodd fyddin a gyda Gaius Cassius Longinus ymladdodd Frwydr Philippi yn erbyn byddinoedd Marcus Antonius ac Octavianus. Mewn gwirionedd roedd dwy frwydr, gyda thair wythnos rhyngddynt. Ym Mrwydr Gyntaf Philippi ar 3 Hydref, 42 CC, llwyddodd Brutus i orchfygu byddin Octavianus, ond gorchfygwyd byddin Cassius gan Marcus Antonius. Gan gredu fod Brutus hefyd wedi colli'r dydd, lladdodd Cassius ei hun.
Ymladdwyd Ail Frwydr Philippi ar 23 Hydref, a gorchfygwyd Brutus gan Antonius ac Octavianus. Lladdodd Brutus ei hun, ac wedi clywed y newyddion, lladdodd ei wraig Porcia ei hun hefyd.