![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/bd/Cato_Utica_Louvre_LP2090.jpg/640px-Cato_Utica_Louvre_LP2090.jpg&w=640&q=50)
Cato yr Ieuengaf
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd Rhufeinig oedd Marcus Porcius Cato Uticensis, a elwir yn Cato yr Ieuengaf (Lladin: Cato Minor), (95 CC - 46 CC. Roedd yn un o wrthwynebwyr amlycaf Iŵl Cesar.
Cato yr Ieuengaf | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 95 CC ![]() Rhufain hynafol ![]() |
Bu farw | 46 CC ![]() o gwaediad ![]() Utica ![]() |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, gwleidydd hynafol, Rhufeinig, milwr Rhufeinig, gwleidydd ![]() |
Swydd | tribune of the plebs, quaestor, Praetor ![]() |
Plaid Wleidyddol | optimates ![]() |
Tad | Marcus Porcius Cato ![]() |
Mam | Livia ![]() |
Priod | Atilia, Marcia ![]() |
Partner | Aemilia Lepida ![]() |
Plant | Porcia, Marcus Porcius Cato, Porcius Cato, Porcia, Porcia ![]() |
Perthnasau | Cato yr Hynaf, Marcus Porcius Cato Salonianus, Servilia ![]() |
Llinach | Porcii Catones ![]() |
Roedd Cato yn or-ŵyr i Cato yr Hynaf. Ganed ef yn Rhufain, a chollodd ei rieni yn ieuanc. Magwyd ef gan ei ewythr, Marcus Livius Drusus. Yn 72 CC, ymladdodd fel gwirfoddolwr yn y rhyfel yn erbyn Spartacus. Daeth yn Dribwn milwrol ym Macedonia yn 67 CC, am ymddengys iddo arwain lleng am gyfnod. Etholwyd ef i swydd Quaestor yn 65 CC. Dadleuodd yn y Senedd o blaid y gosb eithaf i ddilynwyr Catilina yn 63 CC.
Daeth yn ddylanwadol iawn yn y Senedd, ac yn arweinydd plaid yr Optimaten. Daeth i wrthdrawiad a Gnaeus Pompeius Magnus, ac yn fuan wedyn a Iŵl Cesar. Gwrthwynebodd gais Cesar yn 60 CC i gael ceisio am etholiad fel Conswl heb groesi'r ffîn i mewn i ddinas Rhufain (y pomerium). Bu ganddo ran amlwg yn y rhyfel cartref a ddatblygodd yn Rhufain o dechrau 49 CC. Wedi buddugoliaeth Cesar, ffôdd Cato i Utica yng ngogledd Affrica, lle lladdodd ei hun yn hytrach nag ildio.