Mantell alarus
From Wikipedia, the free encyclopedia
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw mantell alarus, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy mentyll galarus; yr enw Saesneg yw Camberwell Beauty (neu Mourning Cloak yn America), a'r enw gwyddonol yw Nymphalis antiopa neu Aglais antiopa.[1][2] Mae'n löyn sydd i'w weld drwy Ewrop - yn enwedig y gwledydd Sgandinafaidd - ac yn ymwelydd prin â dwyrain Lloegr. Ar adegau (1846, 1872, 1947, 1976, 1995 a 2006) gwelwyd myrdd ohonynt. Eu cyfnod yn Lloegr ydy Awst a Medi.
Ffeithiau sydyn Nymphalis antiopa neu Aglais antiopa, Dosbarthiad gwyddonol ...
Nymphalis antiopa neu Aglais antiopa | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | Insecta |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Nymphalidae |
Genws: | Nymphalis |
Rhywogaeth: | N. antiopa |
Enw deuenwol | |
Nymphalis antiopa (Linnaeus, 1758) | |
Cyfystyron | |
Aglais antiopa |
Cau
Yr hen enwau arni yn Saesneg ydy: Grand Surprise a White Petticoat. Daw'r enw Saesneg o'r lleoliad (Coldharbour Lane, Camberwell ger Llundain) lle canfyddwyd dau esiampl ohoni yn Awst 1745.
62–75 mm ydy lled ei hadenydd ar ei anterth.