Madfall ddŵr balfog
From Wikipedia, the free encyclopedia
Madfall ddŵr fach o deulu'r Salamandridae yw'r fadfall ddŵr balfog neu fadfall balfog (Lissotriton helveticus). Mae i'w ganfod yng ngorllewin Ewrop o'r Alban yn y gogledd i Bortiwgal yn y de.[2] Mae'r oedolion yn 8–9 cm o hyd ac mae ganddynt groen brown llyfn gyda llinellau o smotiau tywyll ar hyd yr ystlysau a chynffon. Mae gan y gwrywod draed ôl gweog yn ystod y tymor bridio.[3]
Ffeithiau sydyn Statws cadwraeth, Dosbarthiad gwyddonol ...
Madfall ddŵr balfog | |
---|---|
Gwryw | |
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Amphibia |
Urdd: | Caudata |
Teulu: | Salamandridae |
Genws: | Lissotriton |
Rhywogaeth: | L. helveticus |
Enw deuenwol | |
Lissotriton helveticus (Razumovsky, 1789) | |
Cyfystyron | |
Triturus helveticus |
Cau