![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9e/%25D0%259A%25D1%2580%25D1%258F%25D1%2587%25D0%25BE%25D0%25BA_%25D0%25BC%25D0%25B0%25D0%25BB%25D0%25B8%25D0%25B9.jpg/640px-%25D0%259A%25D1%2580%25D1%258F%25D1%2587%25D0%25BE%25D0%25BA_%25D0%25BC%25D0%25B0%25D0%25BB%25D0%25B8%25D0%25B9.jpg&w=640&q=50)
Môr-wennol fach
rhywogaeth o adar / From Wikipedia, the free encyclopedia
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Môr-wennol fach (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: môr-wenoliaid bach) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Sterna albifrons; yr enw Saesneg arno yw Little tern. Mae'n perthyn i deulu'r Gwylanod (Lladin: Laridae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Môr-wennol fach Sterna albifrons | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Aves |
Urdd: | Charadriiformes |
Teulu: | Laridae |
Genws: | Sternula[*] |
Rhywogaeth: | Sternula albifrons |
Enw deuenwol | |
Sternula albifrons | |
![]() | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn S. albifrons, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod ar arfordir Asia, Ewrop, Affrica ac Awstralia. Fel y rhan fwyaf o'r môr-wenoliaid, maent yn nythu gyda'i gilydd, weithiau gannoedd neu filoedd o adar, ar yr arfordir neu ar ynysoedd. Yn y gaeaf, mae'n symud tua'r de, ac yn cyrraedd cyn belled a De Affrica ac Awstralia.
Mae'r fôr-wennol yn aderyn gymharol fechan, 21–25 cm o hyd a 41–47 cm ar draws yr adenydd.