Médenine (talaith)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Talaith yn ne-ddwyrain Tiwnisia yw talaith Médenine. Mae'n gorwedd ar lan Môr y Canoldir gan ffinio ar daleithiau Tataouine a Gabès yn Nhiwnisia ei hun a Libia i'r dwyrain. Ei phrifddinas yw Medenine, yng ngogledd-orllewin y dalaith.
Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...
Math | Taleithiau Tiwnisia |
---|---|
Prifddinas | Médenine |
Poblogaeth | 479,520 |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tiwnisia |
Gwlad | Tiwnisia |
Arwynebedd | 9,167 km² |
Cyfesurynnau | 33.35472°N 10.50528°E |
TN-82 | |
Cau
Ceir tir gweddol ffrwythlon ar hyd yr arfordir, sy'n cynnwys ynys enwog Djerba, un o brif ganolfannau twristiaeth Tiwnisia. Ond i ffwrdd o Djerba, ar y tir mawr, mae'r wlad yn cael ei dominyddu gan fryniau isel lled anial sy'n ymestyn i'r de i gyfeiriad y Grand Erg Oriental, anialwch mawr tywodlyd sy'n rhan o'r Sahara.
Mae'r prif ddinasoedd a threfi yn cynnwys Medenine, Zarzis, Ben Guerdane a Jorf. Lleolir dinas Rufeinig Gigthis ar yr arfordir cyferbyn â Djerba.