Symudodd i Lundain pan oedd yn ferch ifanc, gan astudio yn yr Ysgol Ganolog Celf a Chreft (rhan o Goleg Canolog Celf a Dylunio Sant Martin erbyn hyn). Ymsefydlodd yng Nghymru yn yr 1940au, lle bu'n paentio, a chyhoeddwyd ei barddoniaeth gan wasg Faber and Faber (Poems (1944), Gods with stainless ears: a heroic poem (1951)).
Priododd â'r bardd Keidrych Rhys yn Llansteffan, a bu'n byw, mewn tlodi i gymharu a beth arferai gydag, yn Llanybri; pentref a'i anfarwolwyd yn "Poem from Llanybri". Roedd y gerdd wedi ei chyfeirio at fardd arall, Alun Lewis, a chyfaddefodd Roberts ei bod wedi ei denu ato.[1]
Cafodd Roberts a Rhys ddau o blant (merch, Angharad, yn Ebrill 1945, a mab, Prydein, yn Rhagfyr 1946) cyn ysgaru ym 1949.
Cysegrwyd The White Goddess i Roberts gan Robert Graves yn yr argraffiad cyntaf, a chyflenwodd hi'r rhan helaeth o'r deunydd Cymreig a ddefnyddwyd ganddo.
Gwaith llên oedd The Endeavour: Captain Cook's first voyage to Australia (1954). Yn ei bywyd wyr, gwadodd ei gwaith, a gwrthododd adael iddo gael ei ail-argraffu. Wedi ei marwolaeth, cyhoeddwyd casgliad o'i cherddi gan Seren Books, ond gorfodwyd hwy i'w dynnu yn ôl oherwydd problemau cyfreithiol gydag ystad Roberts. Cyhoeddwyd cyfrol arall o Collected Poems wedi hir aros, yn 2006 gan Carcanet, a olygwyd gan Patrick McGuinness.[2]
1942 - Dwy gerdd: 'To a Welsh woman' a 'The circle of C' yn Caseg broadsheets of Welsh poetry rhif.4 (Caseg Press)
Conran, Anthony, 'Lynette Roberts: War Poet', Anglo-Welsh Review, 65, (1979), 50-62. Cyhoeddwyd hefyd ar tud.188–200, The Cost of strangeness: essays on the English poets of Wales (Llandysul: Gwasg Gomer, 1982 ISBN 0850888654)
Pikoulis, John, 'Awen warcheidiol: mae cerddi anarferol Lynette Roberts yn ei gosod ymhlith y goreuon o'r llenorion Eingl-Gymreig', Barn 394 (1995), 44-5
Pikoulis, John, '[Introduction to] Six Poems by Lynette Roberts', Poetry Wales, 34, Rhif.2 (Hydref 1998), p.3
Pikoulis, John, 'Lynette Roberts and Alun Lewis', Poetry Wales, 19, Rhif.2, (1983) tud.9-29
Pikoulis, John, 'Obituary: Lynette Roberts', The Guardian, 13 Hydref 1995, tud.117
Wheale, Nigel, 'Beyond the Trauma Stratus: Lynette Roberts' Gods with Stainless Ears and the Post-War Cultural Landscape', Welsh Writing in English: A Yearbook of Critical Essays, 3, (1997), 98-117
Wheale, Nigel, 'Lynette Roberts: Legend and Form in the 1940s', Critical Quarterly, 36, Rhif. 3 (Hydref 1994), 4–19