From Wikipedia, the free encyclopedia
Chwaraewr pêl-droed Americanaidd o Gymru yw Louis Rees-Zammit (ganwyd 2 Chwefror 2001) sy'n chwarae'n broffesiynol i'r Kansas City Chiefs yn y National Football League (NFL).[1] Mae hefyd yn gyn-chwaraewr rygbi'r undeb a fu'n chwarae i Gaerloyw yn Uwch Gynghrair Lloegr[2][3] ac i Gymru ar y lefel genedlaethol.
Louis Rees-Zammit | |
---|---|
Ganwyd | 2 Chwefror 2001 Penarth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb, chwaraewr pêl-droed Americanaidd |
Taldra | 191 centimetr |
Pwysau | 88 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Gloucester Rugby, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Kansas City Chiefs |
Safle | Asgellwr, running back, wide receiver |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Ganed Rees-Zammit ym Mhenarth, Bro Morgannwg.[4] Mynychodd Ysgol y Gadeirlan, Llandaf a dechreuodd chwarae rygbi i'r ysgol.[5] Chwaraeodd rygbi iau i academi Rygbi Caerdydd ac fe'i enwyd yn Nhîm Ysgolion Caerdydd y Ddegawd yn 2020.[6] Yn 16 mlwydd oed, symudodd i Goleg Hartpury yn Sir Gaerloyw ac oddi yno i academi Rygbi Caerloyw.[7]
Ar ôl dechrau ei yrfa ieuenctid gyda Gleision Caerdydd, symudodd i Goleg Hartpury ac oddi yno i academi Rygbi Caerloyw. Ymunodd â thîm hŷn Caerloyw yn nhymor 2019–20, gan ddod yn chwaraewr ieuengaf erioed y clwb i chwarae yn yr Uwch Gynghrair.[8] Sgoriodd ddau gais yn erbyn Caerwrangon yn ystod buddugoliaeth o 36–3 ym mis Rhagfyr 2019,[9] ac yn ddiweddarach yr un mis daeth ef y chwaraewr 18 oed cyntaf i sgorio hat-tric o geisiau[10] yn ystod gêm a gollwyd 33–26 i Northampton.[11]
Derbyniodd Wobr Chwaraewr y Mis yr Uwch Gynghrair ym mis Rhagfyr 2019.[12]
Ar 13 Ionawr 2020, arwyddodd Rees-Zammit ei gontract proffesiynol cyntaf gyda Chaerloyw, a dyrchafwyd felly i'r garfan hŷn o'r tymor 2020-21.[13]
Ar 16 Ionawr 2024, cyhoeddodd y byddai yn gadael y byd rygbi er mwyn rhoi cynnig ar chwarae Pêl-droed Americanaidd gyda'r NFL.[14] Ar 29 Mawrth 2024 arwyddodd gytundeb tair mlynedd gyda'r Kansas City Chiefs i chwarae fel running back/wide receiver.
Cynrychiolodd Rees-Zammit Cymru ar lefel dan-18. Derbyniodd ei alwad gyntaf i garfan hŷn Cymru gan yr hyfforddwr Wayne Pivac ar 15 Ionawr 2020 ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2020.[15] Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru, o'r fainc, mewn gêm brawf yn erbyn Ffrainc a gynhaliwyd yn Stade de France ym Mharis, Ffrainc ym mis Hydref 2020.[16][17] Sgoriodd Rees-Zammit ei gais prawf cyntaf yn erbyn Georgia ar 21 Tachwedd 2020.[18]
Sgoriodd ei gais cyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2021, ar ei ymddangosiad cyntaf yn y Chwe Gwlad, yng ngêm Rownd 1 yn erbyn Iwerddon ar 7 Chwefror 2021.[19] Ar 13 Chwefror 2021, yng ngêm y Chwe Gwlad yn erbyn yr Alban, sgoriodd ddau gais, gan gynnwys y cais buddugol, ac fe’i enwyd yn seren y gêm.[20][21]
Ymfudodd taid tadol Rees-Zammit i Lundain o Malta.[22][23][24]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.