Llŷr
cymeriad yn y Mabinogi / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cymeriad y ceir sôn amdano ym Mhedair Cainc y Mabinogi ac yn y Trioedd Cymreig yw Llŷr. Credir ei fod yn wreiddiol yn cyfateb i Lir ym mytholeg Iwerddon, ac yn dduw'r môr: ystyr y gair Cymraeg Canol llŷr yw 'môr, eigion'.[1]
Yn y Pedair Cainc, nid yw'n ymddangos fel cymeriad yn y stori, ond ef yw tad Brân, Branwen a Manawydan; Penarddun yw eu mam. Yn y Trioedd, rhestrir Llŷr (fel Llŷr Llediaith) yn un o 'Dri Goruchel Garcharor Ynys Prydain' am iddo gael ei ddal yn garcharor gan Euroswydd. Yn chwedl Branwen ferch Llŷr yn y Pedair Cainc, dywedir mai Euroswydd yw tad dau fab ieuengaf Penarddun, Nisien ac Efnisien, felly dichon fod yr hanes yn y Trioedd yn deillio o chwedl goll am ymryson rhwng Euroswydd a Llŷr am gariad Penarddun.[2]
Credir mai Llŷr oedd sail y cymeriad Leir yn hanesion Sieffre o Fynwy, a thrwyddo ef y cymeriad Lear yn nrama King Lear gan William Shakespeare.