![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/31/Black_Book_of_Carmarthen_%2528f.4.r%2529.jpg/640px-Black_Book_of_Carmarthen_%2528f.4.r%2529.jpg&w=640&q=50)
Llyfr Du Caerfyrddin
From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o'r llawysgrifau Cymraeg hynaf sydd wedi goroesi yw Llyfr Du Caerfyrddin (llawysgrif Peniarth 1), sy'n cael ei gyfri fel y casgliad hynaf o farddoniaeth Gymraeg.[1] Llawysgrif gymharol fychan yw, a ysgrifennwyd ar femrwn rhywbryd yng nghanol y 13g, efallai ym Mhriordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog yn nhref Caerfyrddin. Mae'n cynnwys 39 o gerddi ac un testun rhyddiaith byr, ar 54 tudalen ffolio; sef cyfanswm o 108 tudalen (mae rhai tudalennau yn eisiau). Cedwir y llawysgrif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, fel rhan o Lawysgrifau Peniarth.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Crëwr ...
![]() Llyfr Du Caerfyrddin (f.4.r) | |
Enghraifft o'r canlynol | llawysgrif ![]() |
---|---|
Crëwr | Unknown ![]() |
Deunydd | memrwn ![]() |
Rhan o | Llawysgrifau Peniarth ![]() |
Iaith | Cymraeg, Saesneg ![]() |
Tudalennau | 70 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | c. 1350 ![]() |
Genre | barddoniaeth ![]() |
Lleoliad | Llyfrgell Genedlaethol Cymru ![]() |
Perchennog | John Price, Jasper Gryffyth, Siôn Tudur, Robert Vaughan ![]() |
Prif bwnc | proffwydo, Trioedd Ynys Prydain ![]() |
Yn cynnwys | Ymddiddan Myrddin a Thaliesin, Englynion y Beddau, Ysgolan, Marwysgafn ![]() |
![]() |
Cau
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/73/Black.Book.of.Carmarthen.facsimile.png/640px-Black.Book.of.Carmarthen.facsimile.png)
Fe'i lluniwyd dros gyfnod o sawl blwyddyn ac mae'n gofnod o gerddi a sgwennwyd rhwng y 9fed a'r 12g.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/c/cd/Duc00014_Ll_Du_Caerfyrddin_1r.gif/640px-Duc00014_Ll_Du_Caerfyrddin_1r.gif)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/ab/Llyfr_Du_Caerfyrddin_t1.jpg/640px-Llyfr_Du_Caerfyrddin_t1.jpg)