Awdur a newyddiadurwr o Gymro From Wikipedia, the free encyclopedia
Newyddiadurwr, cynhyrchydd dogfen ac awdur o Gymru yw Llion Iwan (ganwyd Hydref 1969). Mae'n gweithio trwy gyfrwng Cymraeg a Saesneg.[1]
Llion Iwan | |
---|---|
Ganwyd | Hydref 1969 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Tad | Dafydd Iwan |
Ganwyd Llion yng Nghaerdydd yn fab i'r gwleidydd a'r canwr Dafydd Iwan. Aeth i Ysgol Waunfawr ac Ysgol Syr Hugh Owen a graddiodd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.[2]
Bu’n gweithio i’r North Wales Weekly News cyn ymuno â’r BBC lle bu’n gweithio’n amrywiol fel newyddiadurwr, cynhyrchydd a chyfarwyddwr.
Bu'n darlithio mewn newyddiaduraeth a ffilm ddogfen ym Mhrifysgol Bangor.
O 2012-2016 roedd yn gomisiynydd cynnwys ffeithiol ar gyfer S4C, ac roedd yn Bennaeth Dosbarthu Cynnwys tan 2018. Yn 2019 daeth yn Gyfarwyddwr Cynnwys gyda Cwmni Da, cwmni cynhyrchu annibynnol wedi'i leoli yng Nghaernarfon.
Mae'n byw ym mhentref Caeathro ger Caernarfon.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.