pentref yng Nghastell-nedd Port Talbot From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref fechan a chymuned ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Llansawel[1] (Saesneg: Briton Ferry).[2] Saif i'r de o dref Castell-nedd.
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 5,878 |
Gefeilldref/i | Ouagadougou |
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.64°N 3.83°W |
Cod SYG | W04001022 |
Cod OS | SS735945 |
Cod post | SA11 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | David Rees (Llafur) |
AS/au y DU | Carolyn Harris (Llafur) |
Enwau ysgolion Llansawel yw Ynysmaerdy, Brynhyfryd a Llansawel ger Eglwys y Santes Mair. Yng ngorllewin Llansawel mae pentre Bedd y Cawr sydd wedi adeiladu ar farian terfynol Cwm Nedd ac yn y dwyrain mae ardal Ynysmaerdy. Yr enw Saesneg ar y dref yw Briton Ferry. Mae rhai pobl yn meddwl bod rhan gyntaf yr enw yn gytras â'r elfen 'Bryddan' yn yr enw Brynbryddan, sydd dros y bryn ym mhentref Cwmafan (felly: 'Rhyd Bryddan' efallai).
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan David Rees (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Carolyn Harris (Llafur).[4]
Am ddegawadau Llansawel oedd cartref Ysbyty Gyffredinol Castell Nedd a oedd yn gwasanaethu yr ardaloedd o amgylch Port Talbot a Chastell-nedd ond nawr mae ysbyty newydd Gwaun Baglan wedi cymryd ei lle.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llansawel (pob oed) (5,911) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llansawel) (517) | 9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llansawel) (5199) | 88% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Llansawel) (1,189) | 45.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.