![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5f/St_Canna%2527s_Church_-_geograph.org.uk_-_472084.jpg/640px-St_Canna%2527s_Church_-_geograph.org.uk_-_472084.jpg&w=640&q=50)
Llangan, Sir Gaerfyrddin
plwyf eglwysig hanesyddol yn Sir Caerfyrddin / From Wikipedia, the free encyclopedia
Plwyf yn Sir Gaerfyrddin, ond a arferai fod yn Sir Benfro, yw Llangan (weithiau Llan gan neu Llan-Gan[1]); saif ar y ffin rhwng y ddwy sir, 16 milltir i'r gorllewin o Gaerfyrddin. Saif rhan o Llangan yn hen gantref Derllys, Arberth a rhan arall yn Nugleddy, Penfro; llifa afon Tâf drwy'r plwyf.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | plwyf ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.846028°N 4.61855°W ![]() |
![]() | |
Esgobaeth | Esgobaeth Tyddewi ![]() |
Cau
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5f/St_Canna%27s_Church_-_geograph.org.uk_-_472084.jpg/320px-St_Canna%27s_Church_-_geograph.org.uk_-_472084.jpg)
- Am leoedd eraill o'r un enw gweler Llangan (gwahaniaethu).
Yn 19g roedd poblogaeth y plwyf rhwng 600-700.[2] O fewn y plwyf hanesyddol hwn mae'r Tŷ Gwyn ar Daf, canolfan eglwysig a noddwyd gan dywysogion teyrnas Deheubarth.
Ceir 'Langan' arall yn ardal Roazhon, Llydaw. Y Santes Canna a roddodd ei henw i'r eglwys leol ac felly'r plwyf; adferwyd yr eglwys yn sylweddol yn 1820.[3]