![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/14/Shingle_beach_and_natural_arch_at_Huslan_cove_-_geograph.org.uk_-_1346028.jpg/640px-Shingle_beach_and_natural_arch_at_Huslan_cove_-_geograph.org.uk_-_1346028.jpg&w=640&q=50)
Llanfair Mathafarn Eithaf
cymuned ar Ynys Môn / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cymuned a phlwyf eglwysig yng ngogledd-ddwyrain Môn yw Llanfair Mathafarn Eithaf.[1] Gorwedd ar yr arfordir rhwng Moelfre i'r gogledd, sydd yn y plwyf, a Benllech i'r de.
Ffeithiau sydyn Math, Sefydlwyd ...
![]() | |
Math | cymuned ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.312111°N 4.236007°W ![]() |
Cod SYG | W04000871 ![]() |
Cod OS | SH5112881795 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Virginia Crosbie (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Cau
Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Dindaethwy. Daw'r enw o'r dref ganoloesol Mathafarn Eithaf (ystyr mathafarn yw 'maes y dafarn').[2] Ceir clwstwr o gytiau hynafol Bwlch a Phant y Saer gerllaw.
Ganed y bardd Goronwy Owen yn Y Rhos-fawr (ardal Bryn-teg heddiw) yn y plwyf ar Ddydd Calan 1723.