Llandygái
pentref yng Ngwynedd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Llandygái[1] ( ynganiad ) (weithiau Llandygai[2] neu Llandegai). Saif ychydig i'r de-ddwyrain o ddinas Bangor ar lan orllewinol Afon Ogwen, gyda phentref Tal-y-bont ar y lan ddwyreiniol. Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Llandygái gan Sant Tegai/Tygái yn y 6g.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Enwyd ar ôl | Tegai |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.2167°N 4.1°W |
Cod SYG | W04000073 |
Cod OS | SH597708 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au | Claire Hughes (Llafur) |
Yr adeilad mwyaf yn Llandygái yw Castell Penrhyn, a adeiladwyd gan Arglwydd Penrhyn gyda'r arian a gafodd o dyfu siwgr yn Jamaica a'r elw o Chwarel y Penrhyn. Mae'n awr yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Heb fod ymhell o Landygái mae gwarchodfa adar Aberogwen, ar lan Traeth Lafan.
Treuliodd y bardd Griffith Williams (Gutyn Peris) (1769-1838), un o ddisgyblion Dafydd Ddu Eryri, y rhan helaeth o'i oes yn Llandygái. Gweithiai yn Chwarel y Penrhyn.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Claire Hughes (Llafur).[4]