![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/ac/Eglwys_Llanycrwys_-_geograph.org.uk_-_432659.jpg/640px-Eglwys_Llanycrwys_-_geograph.org.uk_-_432659.jpg&w=640&q=50)
Llan-crwys
pentref yn Sir Gaerfyrddin / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llan-crwys (hefyd: Llan-y-crwys; Saesneg: Llanycrwys). Saif tua pedair milltir i'r de-ddwyrain o dref Llanbedr Pont Steffan, ar lannau Afon Twrch.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
Math | cymuned, pentrefan ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 235 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 1,363.59 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 52.0833°N 3.9833°W ![]() |
Cod SYG | W04000545 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
![]() | |
Cau
Yn 1934, cyhoeddodd yr ysgolfeistr lleol, Daniel Jenkins, Cerddi Ysgol Llanycrwys, sef casgliad o gerddi a ysgrifennwyd gan feirdd adnabyddus ar gyfer dathliad Dydd Gŵyl Dewi yn Llanycrwys rhwng 1901 a 1920.
Caewyd ysgol gynradd gymunedol Llanycrwys pan agorwyd ysgol ffederal newydd Ysgol Gynradd Carreg Hirfaen ym Medi 2000, wedi cyfuniad ysgolion Coedmor, Ffarmers a Llanycrwys.[1]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Jonathan Edwards (Annibynnol).[2][3]