From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Liberty City yn ddinas ffuglen, a ysbrydolwyd gan Efrog Newydd, sy'n ymddangos yn y gyfres gêm fideo Grand Theft Auto gan Rockstar Games. Mae'n archipelago sy'n ffurfio dinas fawr yn yr Unol Daleithiau. Ymddangosodd tair fersiwn o Liberty City yn y gyfres. Ymddengys y fersiwn gyntaf o Liberty City ym mhennod gyntaf y gyfres, Grand Theft Auto 1, mae'r ddinas yn gymharol debyg o ran ffurf, ac yn ddaearyddol i Efrog Newydd, ac mae'n cynnwys nifer o ynysoedd.
Mae Liberty city yn lleoliad un o'r ardaloedd yn Grand Theft Auto 1, unig leoliad Grand Theft Auto III, Grand Theft Auto Advance, Grand Theft Auto: Liberty City Stories, Grand Theft Auto IV, The Lost and Damned, Chinatown Wars a The Ballad of Gay Tony ac yn lleoliad ar gyfer un dasg yn Grand Theft Auto: San Andreas.
Ym mhob fersiwn o'r ddinas, dangosir Liberty City fel dinas fawr iawn gyda phoblogaeth o sawl miliwn (4 miliwn yn Grand Theft Auto III, dwywaith hynny yn Grand Theft Auto IV ), gyda seilwaith sy'n cynnwys ffyrdd, isffyrdd a threnau, ac weithiau feysydd awyr. Disgrifir y ddinas fel cartref i lawer o sefydliadau troseddol, gangiau a throseddwyr stryd, ac arweinwyr dinesig llygredig iawn. Mae trais a llofruddiaeth yn effeithio ar heddwch y ddinas yn lled aml.
Liberty City yw'r ddinas fwyaf cyffredin yng nghyfres GTA; o'r 14 gêm sydd wedi cyhoeddi, mae wyth yn cael eu lleoli yn Liberty City ac mae dau arall yn cynnwys y ddinas mewn ychydig o ddigwyddiadau bach.
Mae cyfres Grand Theft Auto yn cael ei rannu i'r hyn a elwir yn fydysawdau, wedi eu henwi ar ôl safon y graffig a defnyddir i'w dylunio[1]. Mae'r gêm wreiddiol Grand Theft Auto ei estyniadau a'i olynydd yn perthyn i'r bydysawd 2d. Mae Grand Theft Auto III a'i olynwyr yn perthyn i'r Bydysawd 3D. Mae Grand Theft Auto IV, ei estyniadau a Grand Theft Auto V yn perthyn i'r bydysawd HD. Mae Liberty City yn bodoli yn y tri bydysawd, ond mae'r gwahaniaethau rhwng y dinasoedd yn y wahanol fydysawdau yn sylweddol.
Ymddengys Liberty City am y tro cyntaf yn Grand Theft Auto. Mae daearyddiaeth y ddinas ac aliniad yr ynysoedd yn debyg iawn i Efrog Newydd, gyda dwy brif ynys, sy'n debyg i Manhattan yn y canol (gyda pharc mawr yng nghanol yr ynys, tebyg i Central Park ), a nifer o ynysoedd bach, wedi'u cysylltu â phontydd i'r ynysoedd mwy. Mae trenau uwchlaw'r ffordd hefyd yn bresennol. Mae gweithred y gêm wedi ei osod yn y flwyddyn 1997.
Mae'r fersiwn hon o Liberty City yn debyg iawn yn ddaearyddol i Ddinas Efrog Newydd. Atgynhyrchir nifer o drefi Talaith New Jersey yn ogystal â sawl rhanbarth ac ardal dinas Efrog Newydd gyda golwg o'r brig.
Liberty City yn y bydysawd 3D yw lle mae Grand Theft Auto III[2], Grand Theft Auto Advance[3] a Liberty City Stories[4] yn cael eu lleoli. Yn y dasg Saint Marks Bistro yn GTA San Andreas mae CJ, y prif gymeriad yn ymweld â Liberty City mewn awyren i gyflawni un o'r tasgau[5]. Mae'r ddinas yn seiliedig ar nifer o ddinasoedd mawr yn Nwyrain America yn gyffredinol (Chicago, Efrog Newydd a Philadelphia). Arwyddair y ddinas yw "Y lle gwaethaf yn America". Mae'r ddinas mewn talaith o'r enw "Liberty State". Mae gan y ddinas adran heddlu Liberty City Police Department (LCPD) a hefyd cangen o'r National Office of Security Enforcement (NOOSE) heddlu efo arfau trwm sy'n seiliedig ar adrannau diogelwch go iawn yr Unol Daleithiau yr Adran Diogelwch Cartref (US Department of Homeland Security)[6] a Thimau Arfau Arbennig a Thecteg (Special Weapons And Tactics Teams) yr FBI[7].
Rhennir Liberty City i 3 ynys: Ynys Portland, Ynys Staunton, a Dyffryn Shoreside[8]. Mae hefyd ynys fach o’r enw Portland Rock, sydd mewn gwirionedd yn rhan o Portland. Mae gorsaf dân, ysbyty a gorsaf heddlu wedi lleoli ar bob un o'r ynysoedd.[9]
Ynys Portland[10] yw'r ynys ddwyreiniol sy'n cynnwys yr ardal ddiwydiannol. Dyma le mae'r chwaraewr yn dechrau yng ngemau GTA III, Liberty City Stories, a GTA Advance. Mae'r Portland El, (rheilffordd uwchben y ffyrdd) gallai'r chwaraewr ei gymryd er mwyn teithio'n gyflym i wahanol gymdogaethau'r ynys. Mae 'na orsaf Metro yn Chinatown sy'n galluogi'r chwaraewr i deithio i'r ynysoedd eraill ar drên tanddaearol wedi i'r holl ynysoedd cael eu datgloi.
Ynys Staunton yw'r ynys ganolog ac ardal fasnachol[11], mae llawer o adeiladau ar yr ynys hon sy'n ymdebygu i ardal Manhattan. Dyma'r ail ynys hygyrch.
Dyffryn Shoreside yw ynys orllewinol y ddinas, ac yn bennaf yn ardal breswyl. Dyma le mae Maes Awyr Rhyngwladol Francis wedi'i leoli. Dyma'r ynys olaf i agor yn y gemau[12].
Twnnel Porter yw twnnel ceir sy'n mynd dan ddaear ac yn cysylltu'r ddinas gyfan.
Yn Liberty City GTA III, mae llawer o gangiau yn ymladd am reolaeth y ddinas. Cartel y Colombiaid yw'r gang mwyaf peryglus a dylanwadol yn y ddinas, gan reoli llawer o'r ddinas am ychydig. Maffia Leone yw'r unig deulu maffia sydd wedi gwrthsefyll, gan barhau i ymladd i adennill yr hen diriogaethau hyn, ac yn parhau i fod yn un o'r gangiau mwyaf peryglus yn y ddinas. Mae'r Yakuzas hefyd wedi cynyddu lefel eu dylanwad, dyma'r prif gang sy'n ymladd yn erbyn Cartel y Colombiaid. Flwyddyn yn gynharach yn Advance, mae'r senario'r un fath, mae'r Yazukas yn ymladd rhyfel yn erbyn Colombiaid, ac mae'r Maffia yn ceisio goroesi.
Yn Liberty City Stories, sydd wedi ei osod tair blynedd yn gynharach, mae 'na tri theulu maffia (Y Leone, y Sindaccos a'r Forelli) yn rhannu rheolaeth y ddinas. Oherwydd rhyfel rhwng y tri theulu, a drefnwyd gan y Sisiliaid, mae gangiau eraill yn ymddangos. Bydd gangiau sy'n dod i'r amlwg yn dod yn gynyddol ddylanwadol, gan achosi colli rheolaeth gan deuluoedd Maffia'r ddinas. Y gangiau yn Liberty City Stories yw:
Er bod y gêm GTA III wedi ei gyhoeddi yn gyntaf mae'r gêm Liberty City Stories wedi ei osod mewn cyfnod cynharach. Mae GTA III yn sôn am ddigwyddiadau yn 2001 a Liberty City Stories am ddigwyddiadau ym 1998.
Mae 5ed ymddangosiad Liberty City yn y gyfres, GTA IV, yn wahanol iawn i'r ddinas yn y gemau blaenorol. Mae'n gopi llawer mwy agos at Efrog Newydd go iawn.[13] Mae'r ddinas yn cadw ei hen arwyddair "Y Lle Gwaethaf yn America". Honnir bod poblogaeth y ddinas bellach yn 8 miliwn o bobl.
Mae yna setiau teledu yn y tai lle mae'r gêm yn cael ei arbedi[14]. Mae modd gwylio rhaglenni ar y teledu. Mae un o'r rhaglenni yn adrodd hanes liberty City o'i sefydlu hyd at Ryfel Cartref America, mae ardal Liberty City yn cael ei fforio ym 1609 gan Horatio Humboldt (Cafodd ardal Efrog Newydd ei fforio ym 1609 gan Henry Hudson). Sefydlwyd gorsaf fasnachu gan bobl o'r Iseldiroedd ym 1625 ar South Algonquin (sefydliwyd gorsaf debyg ym 1624 ar Governor Island, Efrog Newydd[15]). Yn wreiddiol, enwyd y ddinas yn Rotterdam Newydd gan y setlwyr cyntaf o'r Iseldiroedd (Amsterdam Newydd oedd cyn enw Efrog Newydd).
Dyma'r rhestr o bedwar bwrdeistref "modern" Liberty City o GTA IV[16], The Lost and Damned[17], Chinatown Wars, a The Ballad of Gay Tony:[18]
Nid yw Staten Island yn cael ei gynrychioli yn y gêm.
Cymdogaeth | Wedi'i ysbrydoli gan |
---|---|
Broker (wedi'i ysbrydoli gan Brooklyn ) | |
BOABO | DUMBO |
Downtown | Downtown Brooklyn |
East Hook | Red Hook |
Outlook | Prospect Park |
South Slopes | Park Slope |
Schottler | Sunnyside |
Beechwood City | Flatbush |
Hove Beach | Brighton Beach |
Prosiectau Firefly | Brownsville |
Firefly Island | Coney Island |
Beachgate | Seagate |
Cymdogaeth | Wedi'i ysbrydoli gan |
Dukes (wedi'i ysbrydoli gan Queens ) | |
Steinway | Astoria |
Meadows Park | Flushing Meadows-Corona Park |
East Island City | Long Island City |
Meadow Hill | Forest Hills |
Willis | Hollis |
Maes Awyr Rhyngwladol Francis | Maes Awyr Rhyngwladol John F. Kennedy |
Cerveza Heights | Jackson Heights Corona |
Cymdogaeth | Wedi'i ysbrydoli gan |
Bohan (wedi'i ysbrydoli gan y Bronx ) | |
Boulevard | Concourse |
Chase Point | Hunts Point |
Fortside | Fordham |
Industrial | Port Morris |
Little Bay | Throg's Neck |
Northen Gardens | Co-op City |
South Bohan | South Bronx |
Cymdogaeth | Wedi'i ysbrydoli gan |
Algonquin (wedi'i ysbrydoli gan Manhattan ) | |
Castle Garden City | Battery Park City |
Castle Gandens | Battery Park |
Chinatown | Chinatown |
Neuadd y Ddinas | Neuadd y Ddinas |
East Holland | Harlem Sbaeneg |
Easton | Midtown |
Fishmarket North & South | South Street Seaport |
Happiness Island | Liberty Island |
Hatton Gardens | Tudor City |
Lancaster | Kips Bay |
Little Italy | Little Italy |
Lower Easton | Lower East Side |
Middle Park | Central Park |
Middle Park East | Upper East Side |
Middle Park West | Upper West Side |
North Holland | Harlem |
Northwood | Inwood |
Presidents City | Alphabet City |
Purgatory | Hell's Kitchen |
Star Junction | Times Square |
Suffolk | Soho |
The Exchange | Financial District |
The Meat Quarter | Meatpacking District |
The Triangle | Flatiron District |
Varsity Hights | Morningside Hights |
Westminster | Greenwich Village |
Mae talaith arall hefyd yn bresennol, er ei fod yn chwarae rôl lai yn GTA IV, sef talaith Alderney, sy'n cael ei ysbrydoli gan talaith New Jersey. Mae Alderney yn ardal fach wedi'i leoli wrth ymyl ardal Liberty.
Mae Alderney City yn eiddo i'r wladwriaeth yn bennaf, ac mae hefyd yn cael ei ysbrydoli gan ddinasoedd Newark a Jersey City. Nid yw Alderney yn ymddangos yn Grand Theft Auto: Chinatown Wars .
Dyma'r rhestr o gymdogaethau yn Alderney;
Cymdogaeth a / neu ddinas | Wedi'i ysbrydoli gan |
---|---|
Alderney (Wedi'i Ysbrydoli gan New Jersey ) | |
Leftwood | Englewood |
Westdyke | Weehawken |
Acter | East Orange o Newark |
Normandi | Bayonne |
Dinas Alderney | Dinas Jersey |
Tudor | Elizabeth |
Harbwr Tudur | Port Elizabeth |
Parc Diwydiannol Acter | Port Johnson |
Cyfleuster Cywiro Talaith Alderney | Carchar gogledd y dalaith, Newark |
Yn Liberty City GTA IV nid yw'r gangiau yn amlwg er eu bod yn bresennol yn y ddinas. Prif gangiau'r ddinas yw:
Mae'r pum teulu yn rhan o Gyngor Liberty City Five Mafia.
Mae'r gangiau beic modur hefyd ar eu hochr, gan ymladd am reolaeth Alderney, gan fod "Lost" ac "Angels of Death" wedi cael eu hysbrydoli gan Hells Angels a gangiau eraill o feicwyr.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.