![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/22/Lerwick%252C_view_from_a_ferry.jpg/640px-Lerwick%252C_view_from_a_ferry.jpg&w=640&q=50)
Lerwick
dref a phorthladd yn Shetland, prifddinas yr Ynysoedd Shetland / From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref yn Shetland, yr Alban, yw Lerwick[1] (Gaeleg yr Alban: Liúrabhaig;[2] Sgoteg: Lerrick;[3] Norwyeg a Norn: Leirvik). Saif ar arfordir dwyreiniol ynys Mainland. Mae wedi bod yn brifddinas i Shetland ers 1708. (Scalloway oedd y brifddinas cyn hynny.) Mae'n canolfan weinyddol Shetland a phorth bwysig, yn arbennig i'r diwydiant pysgota penwaig.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
Math | tref, bwrdeistref fach ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 6,958, 6,880 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Shetland ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 3.15 km² ![]() |
Uwch y môr | 12 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 60.1542°N 1.1486°W ![]() |
Cod SYG | S20000294, S19000323 ![]() |
Cod OS | HU474414 ![]() |
Cod post | ZE1 ![]() |
![]() | |
Cau
Lerwick yw'r dref fwyaf gogleddol yn ynysoedd Prydain. Mae Caerdydd 973.5 km i ffwrdd o Lerwick ac mae Llundain yn 963.6 km. Y ddinas agosaf ydy Aberdeen sy'n 339.4 km i ffwrdd.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Lerwick boblogaeth o 6,960.[4]
Cynhelir Gŵyl Tân mwyaf Ewrop, Up Helly Aa, yn Lerwick ar y dydd Mawrth olaf ym mis Ionawr.[5]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b6/Lerwick_Harbour.jpg/320px-Lerwick_Harbour.jpg)