Lee Min-ho
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Lee Min-ho (Coreeg: 이민호; Hanja: 李敏鎬), ganwyd 22 Mehefin, 1987)[1] yn actor, model a chanwr o Dde Corea, sydd a chefnogwyr ledled y byd, yn enwedig yn UDA, Ffrainc, Awstralia, Canada, Sbaen a'r Eidal.[2] Mae wedi ymddangos mewn sawl cyfres deledu, gan gynnwys Boys Over Flowers (fel Gu Jun-pyo yn 2009), The Heirs (2013), City Hunter (2011) a The King: Eternal Monarch.[3][4][5]
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...
Lee Min-ho | |
---|---|
Ganwyd | 22 Mehefin 1987 Seoul |
Dinasyddiaeth | De Corea |
Alma mater | |
Galwedigaeth | model, actor ffilm, canwr, actor, actor teledu, artist recordio |
Partner | Bae Suzy, Park Min-young |
Gwefan | http://www.leeminho.kr/ |
llofnod | |
Cau
Ar wahân i'w yrfa deledu, ymddangosodd Lee yn y brif ran gyntaf yn y ffilm Gangnam Blues (2015), ac yna ei ffilm gyntaf a gynhyrchwyd yn Tsieina, Bounty Hunters (2016), a wnaeth incwm o US $31 miliwn a'r gyfres mini-ramant-we-gyfres Line Romance (2014), a wnaeth UD $20 miliwn.[6]