From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Lazarus Aaronson, (18 Chwefror 1895 – 9 Rhagfyr 1966) yn fardd Seisnig ac yn athro economeg.[1]
Lazarus Aaronson | |
---|---|
Ganwyd | 24 Rhagfyr 1894, 18 Chwefror 1895 Spitalfields |
Bu farw | 9 Rhagfyr 1966 Harpenden |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, economegydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | MBE |
Ganwyd Aaronson yn Spitalfields, Llundain ym 1895 yn fab i Louis Aaronson, gwneuthurwr esgid a Sarah (née Kowalski) ei wraig. Roedd y tad yn fewnfudwr o Rwsia ac fe wnaed ef a’i pum plentyn, gan gynnwys Lazarus, yn ddinasyddion Prydeinig ym 1897.[2]
Cafodd ei addysgu yn Whitechapel City Boy’s School, Llundain, Ysgol Ramadeg Hackney Downs ac Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain (LSE).
Priododd tair gwaith. Priododd ei wraig gyntaf, Lilly Shalveson (1903-1989), ym 1924 roedd hi’n actio o dan yr enw llwyfan Lydia Sharewood[3]. Diweddodd y briodas mewn ysgariad ym 1931 ar sail perthynas godinebus Lilly gyda’r cyfarwyddwr theatr Theodore Komisarjevsky. Priododd a Dorothy Beatrice Lewer (1915-2005) ym 1938 gan ei hysgaru cyn priodi am y drydedd tro a Margaret Olive Ireson (1920-1981); bu iddynt un mab, David, a anwyd ym 1953.
Daeth yn athro economeg yng Ngholeg Dinas Llundain ym 1934 gan barhau yn y swydd am chwarter canrif. Wrth ymddeol fe’i penodwyd yn MBE am ei wasanaeth i addysg.
Cyhoeddodd ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth Christ in the Synagog gan gwmni Gollancz ym 1930, a’i ail gyfrol Poems ym 1933. Cyhoeddwyd ei gasgliad olaf, The Homeward Journey and Other Poems ym 1946.
Mae llawer o’i gerddi yn trafod twf ffasgiaeth, y goresgyniad Sofietaidd o’r Ffindir a’r Ail Ryfel Byd. Mae o hefyd yn trafod y gwrthdrawiad rhwng ei gefndir Iddewig a’r ffydd Cristionogol a mabwysiadodd yn niweddarach.
Bu farw o drawiad ar y galon yn Paddington Llundain yn 71 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Westfield Road.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.