From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd Sofietaidd oedd Lazar Moiseyevich Kaganovich (22 Tachwedd [10 Tachwedd yn yr Hen Ddull] 1893 – 25 Gorffennaf 1991) a wasanaethodd yn Brif Ddirprwy Gadeirydd Cyngor Gweinidogion yr Undeb Sofietaidd o 1953 i 1957. Roedd yn un o brif gefnogwyr Joseff Stalin.
Lazar Kaganovich | |
---|---|
Ffotograff o Lazar Kaganovich yn y 1930au. | |
Ganwyd | 10 Tachwedd 1893 (yn y Calendr Iwliaidd) Dibrova |
Bu farw | 25 Gorffennaf 1991 |
Swydd | First Deputy Premier of the Soviet Union, First Secretary of the Communist Party of Ukraine |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd |
Gwobr/au | Medal Coffau 800fed Pen-blwydd Moscaw, Medal Jiwbili "I Goffáu 100fed Pen-blwydd Geni Vladimir Ilyich Lenin" (10 gair / words) |
llofnod | |
Ganed ef i deulu Iddewig yn Kabany, Llywodraethiaeth Kyiv, Ymerodraeth Rwsia, a leolir heddiw yn Oblast Kyiv, Wcráin. Yn ei arddegau, tra'n gweithio fel crydd yn Kyiv, ymaelododd â Phlaid Ddemocrataidd Sosialaidd y Gweithwyr ym 1911 ac ymunodd â'r asgell tra-chwyldroadol—y Bolsieficiaid—a fyddai'n cipio grym yn sgil Chwyldro Rwsia (1917) ac yn sefydlu'r Undeb Sofietaidd. Ym 1920 fe'i penodwyd yn bennaeth ar y llywodraeth newydd yn Tashkent, a llwyddodd i atgyfnerthu rheolaeth Sofietaidd dros Dyrcestan. Daeth i sylw Joseff Stalin, a ddyrchafwyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid Gomiwnyddol ym 1922, a phenodwyd Kaganovich i oruchwylio adrannau lleol y blaid. Ym 1924, pan ddaeth Stalin yn arweinydd goruchaf yr Undeb Sofietaidd, rhoddwyd i Kaganovich awdurdod dros nawddogaeth o fewn y blaid, ac yn y swydd honno sicrhaodd y byddai Stalin a'i gefnogwyr yn drech na'i elynion gwleidyddol.[1] Gwasanaethodd hefyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Gomiwnyddol Wcráin o 1925 i 1928.[2]
Erbyn 1930, yr oedd Kaganovich yn aelod llawn o Swyddfa Wleidyddol y Pwyllgor Canolog (y Politbiwro) ac yn un o gynghorwyr agosaf Stalin. Dadleuodd yn frwd dros gyfunoli ar raddfa eang yn y 1930au, ac yn ei swydd fel pennaeth y Blaid Gomiwnyddol ym Moscfa o 1930 i 1935 atgyfnerthodd rym Stalin dros weinyddiaeth y brifddinas. Arweiniodd Kaganovich a Vyacheslav Molotov yr ymgyrch yn y Politbiwro yn erbyn ymdrechion Sergei Kirov i herio unbennaeth Stalin.[1] Aeth Kaganovich a Molotov i Wcráin yng Ngorffennaf 1932 i orfodi cwotâu'r llywodraeth am ŷd, ac o'r herwydd mae lle i gredu yr oedd Kaganovich yn un o'r rhai a fu'n gyfrifol am newyn yr Holodomor (1932–33).[2] Kaganovich oedd un o brif gefnogwyr y Carthiad Mawr (1936–38) a ddinistriodd y gwrthwynebiad i Stalin yn y blaid a'r wladwriaeth.
Penodwyd Kaganovich yn gomisâr dros gludiant ym 1935, diwydiant trwm ym 1937, a'r diwydiannau tanwydd a phetroliwm ym 1939. Penodwyd yn ddirprwy brif weinidog ym 1938 ac yn aelod o Bwyllgor Amddiffyn y Wladwriaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi'r rhyfel, Kaganovich oedd un o ychydig o'r Iddewon amlwg na chawsai eu herlid yn ystod carthiadau gwrth-Semitaidd Stalin.[1] Yn y cyfnod wedi'r Carthiad Mawr hyd at farwolaeth Stalin ym 1953, Kaganovich oedd yn bennaf gyfrifol am y diwydiannau trymion yn yr Undeb Sofietaidd. Yn ogystal â'r newynau yn Wcráin a Gogledd y Cawcasws ym 1933, câi Kaganovich ei feio am waethygu'r newyn ar draws gweriniaethau gorllewinol yr Undeb Sofietaidd ym 1946–47.[2]
Bu farw Stalin ym Mawrth 1953, a than y drefn newydd gwasanaethodd Kaganovich yn Brif Ddirprwy Gadeirydd Cyngor y Gweinidogion. Gwrthwynebodd ymdrechion yr arweinydd newydd, Nikita Khrushchev, i ddad-Stalineiddio, ac ym Mehefin 1957 ymunodd Kaganovich â'r cynllwyn aflwyddiannus i ddisodli Krushchev. O ganlyniad, diswyddwyd Kaganovich o'i holl swyddi llywodraethol. Ym 1964 datganodd y llywodraeth i Kaganovich gael ei fwrw allan o'r Blaid Gomiwnyddol. Bu farw Lazar Kaganovich ym Moscfa ym 1991 yn 97 oed, y goroeswr olaf o do'r Hen Folsieficiaid.[3] Pum mis wedi ei farwolaeth, chwalodd yr Undeb Sofietaidd. Cyhoeddwyd ei hunangofiant ym 1996.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.