![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5d/Generacion_del_45.jpg/640px-Generacion_del_45.jpg&w=640&q=50)
La Generación del 45
From Wikipedia, the free encyclopedia
Enw ar fudiad o lenorion o Wrwgwái yw La Generación del 45 (Sbaeneg am "Genhedlaeth 45") a ddaethant i'r amlwg rhwng 1945 a 1950. Defnyddir yr enw hefyd i grybwyll cerddorion ac arlunwyr o'r un cyfnod. Roedd ei aelodau'r to hwn yn rhan o ffenomen gymdeithasol, wleidyddol a diwylliannol a gafodd ddylanwad penderfynol ar hunaniaeth ddeallusol gyfoes yr Wrwgwaiaid.[1]
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | symudiad celf ![]() |
---|---|
Gwladwriaeth | Wrwgwái ![]() |
![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5d/Generacion_del_45.jpg/640px-Generacion_del_45.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/18/Generaci%C3%B3n45.jpg/320px-Generaci%C3%B3n45.jpg)
Ymddangosodd La Generación del 45 o ganlyniad i gyfnod hir o ddatblygiadau diwylliannol ym Montevideo. Cafodd twf y dinasoedd yn Wrwgwái yn ystod hanner cyntaf yr 20g ôl-effeithiau ar gynnyrch llenyddol y wlad, fel y dywed Mario Benedetti:
"Rwy'n credu bod y cylchgrawn Número yn llawer mwy trylwyr pan mae'n ymdrin â'r llenyddiaeth genedlaethol bron bob amser o safbwynt drefol, ffordd o lenydda a ddechreuodd gyda'n cenhedlaeth, "y 45", oherwydd tan hynny nid oedd llên Wrwgwái ond yn delio â themâu cefn gwlad, y gauchos, ac ati, ac roeddem mewn cyfnod pan oedd hynny i gyd wedi newid. Daeth yr awduron a gynhyrchodd bron i ddim yn y blynyddoedd hyn o gefn gwlad, a chefn gwlad yr oeddent yn adnabod trwy feirdd eraill a oedd wedi byw yn y profiad hwn.. . Roedd ysgrifenwyr y cylchgrawn Asir yn adlewyrchu amgylchedd delfrydol a rhamantus yn eu gwaith, yn siarad am y dirwedd, am natur, ac nid oeddent erioed yn cyfeirio at y ddinas. Yn ogystal, ar y pryd, roedd llawer o bethau'n digwydd yn y ddinas, roedd hanner y wlad yn byw ym Montevideo, dyna'r realiti.. ."[2]
Yn yr ugain mlynedd wedi 1945 bu llên Wrwgwái ar ei hanterth. Ers yr oes aur honno, mae rhai o feirdd y wlad wedi efelychu athroniaeth a thueddiadau La Generación del 45. Mae nifer o lenorion diweddarach wedi cynnal y fflam a gynnwyd gan La Generación del 45.