![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5b/JUNO_-_PIA13746.jpg/640px-JUNO_-_PIA13746.jpg&w=640&q=50)
Juno (chwiliedydd)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Chwiliedydd gofod yw Juno sy'n cylchdroi'r blaned Iau. Cafodd ei lansio gan NASA o Orsaf Awyrlu Cape Canaveral ar 5 Awst 2011, fel rhan o raglen New Frontiers, ac aeth i gylchdro o gwmpas y blaned Iau ar 4 Gorffennaf 2016.[1][2][3] Mae'r llong ofod mewn cylchdro pegynol i astudio cyfansoddiad Iau, maes disgyrchiant, maes magnetig, a magned-sffer pegynol. Fe fydd Juno hefyd yn chwilio am gliwiau am sut ffurfiwyd y blaned, gan gynnwys gweld os oes ganddo graidd creigiog, faint o ddŵr sy'n bresennol o fewn yr atmosffer dwfn, dosbarthiad màs, a'i wyntoedd cryf, sy'n gallu cyrraedd cyflymder o 618 cilomedr yr awr (384 mph).[4]
![]() | |
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | chwiliedydd gofod, orbiter ![]() |
---|---|
Màs | 3,625 cilogram, 1,593 cilogram ![]() |
Gwlad | Unol Daleithiau America ![]() |
Rhan o | Rhaglen New Frontiers ![]() |
Rhagflaenwyd gan | New Horizons ![]() |
Olynwyd gan | OSIRIS-REx ![]() |
Gweithredwr | Labordy Propulsion Jet ![]() |
Gwneuthurwr | Lockheed Martin Space ![]() |
Enw brodorol | Juno ![]() |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Gwefan | http://www.nasa.gov/mission_pages/juno/main/index.html ![]() |
![]() |
Juno yw'r ail long ofod i gylchdroi'r blaned Iau, yn dilyn Galileo, a oedd mewn cylchdro o 1995 hyd at 2003.
Pŵerir llong ofod Juno gan baneli solar, a ddefnyddir fel arfer ganlloerennau sy'n cylchdroi'r Ddaear ac yn gweithio yn rhan fewnol cysawd yr Haul, tra bod generaduron r thermodrydanol radioisotop yn cael eu defnyddio'n aml ar gyfer teithiau i rannau allanol cysawd yr Haul a thu hwnt. Gyda Juno, fodd bynnag, mae'r tair adain arae solar, y mwyaf erioed i'w defnyddio ar chwiliedydd planedol, yn chwarae rôl bwysig yn sefydlogi'r llong ofod yn ogystal â chynhyrchu pŵer.[5]
Mae enw'r llong ofod yn dod o fytholeg Roeg-Rufeinig. "Tynnodd y duwIau orchudd o gymylau o gwmpas ei hun i guddio ei ddrygioni, ond roedd ei wraig, y dduwies Juno, yn gallu sbecian drwy'r cymylau a gweld gwir natur Iau."[6] Cyfeiriwyd at y daith cyn hynny gyda'r 'backronym' JUpiter Ger-polar Orbiter mewn rhestr o acronymau NASA.[7]