Julian Jaynes
From Wikipedia, the free encyclopedia
From Wikipedia, the free encyclopedia
Seicolegydd Americanaidd oedd Julian Jaynes (27 Chwefror 1920 – 21 Tachwedd 1997), a adnabyddir orau am ei lyfr The Origin of Consciousness in the Breakdown of the Bicameral Mind (1976), ynddi dadleuodd nad oedd pobl hynafol yn ymwybodol (nid oedent yn berchen ar lle-meddwl mewnsyllgar), ond y cyfarwyddwyd eu ymddygiad gan rhithweledigaethau clybodol, ac yr oeddent yn dehongli hyn fel lleis eu pennaeth, brenin neu dduwiau. Dadleuodd Jaynes y digwyddodd y newid o'r ffurf yma o feddwl (a elwodd yn feddwl bicameral) i ymwybyddiaeth drost gyfnod o ganrifoedd tua tair mil o flynyddoedd yn ôl, seilwyd ar ddatblygiad iaith trosiadol ac ymddangosiad ysgrifennu.
Julian Jaynes | |
---|---|
Ganwyd | 27 Chwefror 1920 Newton |
Bu farw | 21 Tachwedd 1997 Charlottetown |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | seicolegydd, academydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | bicameralism, The Origin of Consciousness in the Breakdown of the Bicameral Mind |
Ganwyd Jaynes yng Ngorllewin Newton, Massachusetts a mynychodd Brifysgol Harvard. Roedd yn fyfyriwr israddedig ym Mhrifysgol McGill ac aeth ymlaen i dderbyn gradd meistr a doethuriaeth o Brifysgol Yale. Frank Beach, ffrind agos i Edwin G. Boring., oedd ei fentor, a fe wnaeth Jaynes gyfraniadau sylweddol i faesydd ymddygiad anifeiliaid ac etholeg yn ystod y cyfnod hwn. Ar ôl Yale, treuliodd Jaynes nifer o flynyddoed yn Lloegr, yn gweithio fel actor a dramodydd. Dychwelodd Jaynes i'r Unol Daleithiau yn ddiweddarach, a darlithiodd seicoleg ym Mhrifysgol Princeton rhwng 1966 a 1990, gan ddysgu dosbarth poblogaidd ar bwnc ymwybyddiaeth am y rhanfwyaf o'r cyfod hwnnw. Roedd llawer o alw amdano fel darlithydd, a gwahoddwyd ef i darlithio mewn cynadleddau mewn prifysgolion eraill fel darlithydd gwadd; gan gynnwys yn Harvard, Columbia, Cornell, Johns Hopkins, Rutgers, Dalhousie, Wellesley, Florida State, a Phrifysgolion Hampshire Newydd, Pennsylvania, Ynys Tywysog Edward, a Massachusetts yn Amherst a Porthladd Boston Harbor. Yn 1984, gwahoddwyd ef i roi darlith cyflawn yn Symposiwm Wittgenstein yn Kirchburg, Awstria. Fe wnaeth chwe darlith pwysig yn 1985 a naw yn 1986. Gwobrwywyd gyda gradd doethuriaeth anrhydedd gan Goleg Ynys Rhode yn 1979, ac un arall o Goleg Elizabethtown yn 1985.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.