From Wikipedia, the free encyclopedia
Economegydd ac academydd Americanaidd yw Joseph Eugene Stiglitz (ganwyd 9 Chwefror 1943). Enillodd Stiglitz Wobr Economeg Nobel, ar y cyd ag A. Michael Spence a George A. Akerlof, yn 2001 "am eu dadansoddiadau o farchnadau gyda gwybodaeth anghymesur".[1]
Joseph Stiglitz | |
---|---|
Joseph Stiglitz yn 2019. | |
Ganwyd | Joseph Eugene Stiglitz 9 Chwefror 1943 Gary, Indiana |
Man preswyl | Gary, Indiana, Indiana |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | economegydd, academydd, awdur gwyddonol, awdur ffeithiol, athro cadeiriol, critig, ysgrifennwr |
Swydd | Chief Economist of the World Bank, Chair of the Council of Economic Advisers |
Cyflogwr | |
Prif ddylanwad | Paul Samuelson, Robert Solow, Henry George, John Maynard Keynes, John Kenneth Galbraith |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Mudiad | New Keynesian economics |
Priod | Anya Schiffrin |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Medal John Bates Clark, H. C. Recktenwald Prize in Economics, Gwobr Economeg Nobel, Gwobr Economi Bydeang, Ysgoloriaethau Fulbright, Gwobr Daniel Patrick Moynihan, Gerald Loeb Award, Fellow of the Econometric Society, Cymrawd yr Academi Brydeinig, honorary doctor of the Renmin University of China, Aelod Tramor o'r Gymdeithas Frenhinol, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Harvard, Officier de la Légion d'honneur, honorary doctor of the Catholic University of Louvain, Paul A. Volcker Lifetime Achievement Award for Economic Policy, honorary degree of HEC Paris, doethur honouris causa o Brifysgol Carolina de Praga, honorary doctorate at École Normale Supérieure de Lyon, Gwobr Heddwch Sydney, Fisher-Schultz Lecture, Grotius Lectures, Q121537149, Q126416301 |
Gwefan | http://www.josephstiglitz.com/, https://business.columbia.edu/stiglitz |
Ganed yn Gary, Indiana, Unol Daleithiau America, i deulu o Americanwyr Iddewig. Derbyniodd ei radd baglor o Goleg Amherst ym 1964 a'i ddoethuriaeth o Sefydliad Technoleg Massachusetts ym 1967. Addysgodd mewn sawl prifysgol o fri, gan gynnwys Yale, Harvard, a Stanford. Bu'n un o brif gynghorwyr polisi economaidd yr Arlywydd Bill Clinton, yn aelod (ac o 1995 yn gadeirydd) o Gyngor Cynghorwyr Economaidd yr Unol Daleithiau o 1993 i 1997, ac yn brif is-lywydd a phrif economegydd Banc y Byd o 1997 i 2000. Fe'i penodwyd yn athro ym Mhrifysgol Columbia yn 2000. Gwasanaethodd yn llywydd ar y Gymdeithas Economaidd Ryngwladol o 2011 i 2014.[2]
Ymhlith ei lyfrau mae Globalization and Its Discontents (2002), The Roaring Nineties (2003), The Price of Inequality (2012), The Euro (2016), a People, Power, and Profits (2019).
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.