From Wikipedia, the free encyclopedia
Athronydd, beirniad llenyddol, ac ysgrifwr o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd José Enrique Rodó (15 Gorffennaf 1871 – 1 Mai 1917). Roedd yn un o aelodau La Generación del 900 ac yn rhan o fudiad modernismo. Mae'n nodedig am ei lyfr Ariel (1900), gwaith modernaidd sy'n amddiffyn yn erbyn tra-arglwyddiaeth ddiwyllianniol Ewrop a'r Unol Daleithiau, a ddylanwadodd ar y meddylfryd diwylliannol a deallusol ar draws America Ladin. Ystyrir Rodó yn athronydd goreuaf gwledydd Sbaeneg yr Amerig, a'r ffigur pwysicaf yn llên Wrwgwái.
Ganwyd ym Montevideo, a threuliodd y rhan helaeth o'i oes yno. Brodor o Gatalwnia oedd ei dad. Ymddisgleiriodd José yn ei astudiaethau llên ac hanes yn yr ysgol, a mynychodd Prifysgol y Weriniaeth, er iddo hefyd addysgu ei hunan fel darllenwr brwd yn y llyfrgell.[1]
Cyd-sefydlodd y cylchgrawn Revista nacional de literatura y ciencias sociales yn 1895. Penodwyd Rodó yn athro llenyddiaeth ym Mhrifysgol y Weriniaeth yn 1898, ac addysgodd yno nes 1902. Gwasanaethodd hefyd yn gyfarwyddwr Llyfrgell Genedlaethol Wrwgwái. Cynrychiolodd Partido Colorado yn Siambr y Dirprwyon yn 1902–05 ac yn 1908–14.[2]
Cyhoeddodd ei gampwaith, yr ysgrif hir Ariel, yn 1900. Ymhlith ei gasgliadau eraill o ysgrifau mae Motivos de Proteo (1908) ac El mirador de Próspero (1913).
Teithiodd Rodó i Ewrop yn 1916 fel gohebydd tramor ar gyfer papurau newydd ym Montevideo a Buenos Aires. Bu farw yn Palermo, Sisili, yn 45 oed.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.