John Strachan
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ysgolhaig Albanaidd oedd John Strachan (1862–1907). Fel ieithydd ymddiddorai yn yr ieithoedd Celtaidd, Sansgrit a Hen Roeg.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
John Strachan | |
---|---|
Ganwyd | 1862 Keith |
Bu farw | 1907 |
Galwedigaeth | ieithydd, cyfieithydd |
Cau
Ganed Strachan yn nhref fechan Keith yn Ucheldiroedd yr Alban. Astudiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt a Jena. Daeth yn athro yng Ngholeg Owens ac ym Mhrifysgol Manceinion.[1]
Sefydlodd y cofnodolyn Ériu ar y cyd â'r athro Kuno Meyer. Ym maes astudiaethau Cymraeg Canol, roedd ei An Introduction to Early Welsh yn gyfrol arloesol am y cyfnod; fe'i cyhoeddwyd yn 1909, dwy flynedd ar ôl ei farwolaeth.