![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c2/1894._Portrait_of_John_Hughes%252C_founder_of_Hughesovka_%2528cropped%2529.jpg/640px-1894._Portrait_of_John_Hughes%252C_founder_of_Hughesovka_%2528cropped%2529.jpg&w=640&q=50)
John Hughes (diwydiannwr)
peiriannydd ac arloeswr gweithfeydd yn Wcráin / From Wikipedia, the free encyclopedia
Peiriannydd a dyn busnes o Gymro oedd John James Hughes (1814 – 17 Mehefin 1889). Ef oedd sylfaenydd dinas Donetsk yn yr Wcráin.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
John Hughes | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1814 ![]() Merthyr Tudful ![]() |
Bu farw | 17 Mehefin 1889 ![]() St Petersburg ![]() |
Man preswyl | Donetsk ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | person busnes, peiriannydd, metelegwr, perchennog pwll glo, gwneuthurwr, diwydiannwr, entrepreneur ![]() |
Cyflogwr |
Cau
Ganwyd John Hughes ym Merthyr Tudful ym 1814. Ei dad oedd prif beiriannydd Gwaith Haearn Cyfarthfa. Bu Hughes yn gweithio fel peiriannydd yn y De ac yn Lloegr cyn iddo gael ei alw gan lywodraeth Rwsia i sefydlu gweithfeydd haearn yn yr Wcráin. Sefydlodd Hughes ddinas yn yr Wcráin ym 1870, a galwyd y ddinas honno yn Hughesovka (Юзовка) ar ôl ei sylfaenydd. Ail-enwyd y ddinas yn Stalino ym 1924, ac ym 1961 newidiwyd enw'r ddinas eto i Donetsk.