dramodydd (1904-1988) From Wikipedia, the free encyclopedia
Dramodydd a darlithydd Cymraeg oedd y Dr. John Gwilym Jones (27 Medi 1904 – 16 Hydref 1988). Fe'i ganwyd yn y Groeslon, Dyffryn Nantlle.
John Gwilym Jones | |
---|---|
Ganwyd | 27 Medi 1904 Groeslon |
Bu farw | 16 Hydref 1988 Groeslon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dramodydd |
Adnabyddus am | Rhyfedd y'n Gwnaed |
Bu'n athro yn Llundain cyn cael ei benodi yn gynhyrchydd drama gyda'r BBC, ac yna bu'n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Bangor. Fe ysbrydolodd genedlaethau o fyfyrwyr, a daeth nifer ohonyn nhw'n nofelwyr Cymraeg enwog, rhai fel John Rowlands, Jane Edwards ac Eigra Lewis Roberts. Ysbrydolodd hefyd lu o actorion, megis Maureen Rhys.[1]
Cafodd ei daro'n wael wrth ail-agor festri Capel Brynrhos, Groeslon a bu'n farw fuan wedyn. Cafodd ei ymlosgi ym Mangor ar 21 Hydref, a fe gladdwyd ei lwch ym medd ei rieni yn Llandwrog.[2]
Sefydlwyd Cymdeithas John Gwilym Jones, cymdeithas lên Gymraeg Prifysgol Bangor, ar yr 2il o Hydref 2018 er cof amdano. Penderfynwyd enwi'r Gymdeithas ar ôl y dramodydd enwog am y cred nifer o bobl na wnaed digon i goffau'r llenor o'r Groeslon wedi ei farwolaeth.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.