cyfansoddwr a aned yn 1782 From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfansoddwr o Wyddel oedd John Field (26 Gorffennaf 1782 - 23 Ionawr 1837), a aned yn Nulyn. Daeth yn enwog fel un o'r prif gyfansoddwyr i'r piano yn ei ddydd a edmygid gan Haydn a Schumann.
John Field | |
---|---|
Ganwyd | 26 Gorffennaf 1782 Dulyn |
Bu farw | 23 Ionawr 1837 o niwmonia Moscfa |
Dinasyddiaeth | Gwyddel |
Galwedigaeth | pianydd, cyfansoddwr, athro, bardd |
Arddull | cerddoriaeth glasurol, Hwyrgan |
Plant | Leon Leonov |
Roedd ei daid yn organydd a phianydd yn Nulyn a'i dad yn fiolinydd mewn cerddorfa yn yr un ddinas. Rhoddodd ei berfformiad cyntaf yn wyth oed, wedi ei hyfforddi gan Giordani. Yn llanc 11 oed, aeth gyda'i dad i fyw yn Llundain. Cafodd ei hyfforddi ymhellach yno gan Clementi. Perfformiodd o flaen cynulleidfa a oedd yn cynnwys Haydn, a ganmolodd ei berfformiad a darogan dyfodol llewyrchus iddo.
Aeth i St Petersburg, Rwsia, gyda Clementi. Arhosodd yno a daeth yn ffefryn yng nghylchoedd aristocrataidd y ddinas. Ymhlith ei ddisgyblion achlysurol roedd y Glinka ifanc. Teithiodd Ewrop wedyn fel pianydd virtuoso. Bu farw ym Moscfa o niwmonia.
Fel cyfansoddwr cerddoriaeth i'r piano, daeth yn adnabyddus ledled y cyfandir. Dyfeisiodd ac enwodd y Nocturne i'r piano; mae Chopin yn ddyledus iddo am y rhain. Cyhoeddodd Liszt argraffiad o nocturnes Field gyda rhagair canmoliaethus.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.