Cyfansoddwr Almaenig oedd Robert Schumann (8 Mehefin 1810 - 29 Gorffennaf 1856). Ystyrir ef yn un o gyfansoddwyr pwysicaf y mudiad Rhamantaidd yn y 19g.
Robert Schumann | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mehefin 1810 Zwickau |
Bu farw | 29 Gorffennaf 1856 Endenich, Bonn |
Man preswyl | Schumann-Haus, Leipzig |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Sachsen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, pianydd, beirniad cerdd, arweinydd, cerddolegydd, athro cerdd, llenor |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Symphony No. 1, Symphony No. 2, Symphony No. 3, Kinderszenen |
Prif ddylanwad | Niccolò Paganini |
Tad | August Schumann |
Priod | Clara Schumann |
Partner | Ernestine von Fricken |
Plant | Marie Schumann, Julie Schumann, Emil Schumann, Ferdinand Schumann, Eugenie Schumann, Felix Schumann, Ludwig Schumann |
llofnod | |
Ganed ef yn Zwickau, yn yr hyn oedd yr adeg honno yn Deyrnas Sacsoni. Ei fwriad ar y cychwyn oedd dod yn bianydd proffesiynol, a cymerodd hyfforddiant gan Friedrich Wieck. Fodd bynnag, anafodd ei law, a phenderfynodd ganolbwyntio ar gyfansoddi.
Hyd at 1840, cyhoeddodd gyfansoddiadau ar gyfer y piano yn unig, ond yn ddiweddarach cyfansoddodd ar gyfer cerddorfa a phiano, pedair symffoni, lieder ac un opera. Bu'n ysgrifennu llawer am gerddoriaeth yn y Neue Zeitschrift für Musik, cylchgrawn a fu'n un o'i sylfaenwyr.
In 1840, priododd Clara Wieck, merch Friedrich Wieck, ar ôl brwydr gyfreithiol hir a'i thad. Treuliodd y ddwy flynedd olaf o'i fywyd mewn sefydliad ar gyfer pobl ag afiechyd meddyliol ar ôl iddo geisio lladd ei hun.
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.