Jean-Paul Belmondo
actor a aned yn Neuilly-sur-Seine yn 1933 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Jean-Paul Belmondo (Ffrangeg: [ʒɑ̃pɔl bɛlmɔ̃do]; 9 Ebrill 1933 – 6 Medi 2021) yn actor Ffrengig. Roedd e'n gysylltiedig i ddechrau â New Wave y 1960au. Roedd Belmondo yn seren ffilm Ffrengig am sawl degawd o'r 1960au. Ymhlith ei gredydau mwyaf adnabyddus mae Breathless (1960) a That Man from Rio (1964).
Cafodd Belmondo ei eni yn Neuilly-sur-Seine [1][2] yn fab i Paul Belmondo, gerflunydd Pied-Noir a anwyd yn Algeria o dras Eidalaidd.[3][4] Fel bachgen roedd ganddo fwy o ddiddordeb mewn chwaraeon na'r ysgol, gan ddatblygu diddordeb arbennig mewn bocsio a phêl-droed. [5]