From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o daleithiau Indonesia yw Canolbarth Jawa (Indoneseg: Jawa Tengah). Mae'n ffurfio rhan ganol ynys Jawa, ac roedd y boblogaeth yn 32,864,000 yn 2009. Y brifddinas yw Semarang.
Arwyddair | Prasetya Ulah Sakti Bhakti Praja |
---|---|
Math | talaith Indonesia |
Prifddinas | Semarang |
Poblogaeth | 34,897,757 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Ganjar Pranowo |
Daearyddiaeth | |
Sir | Indonesia |
Gwlad | Indonesia |
Arwynebedd | 32,800.69 ±0.01 km² |
Uwch y môr | 561 metr |
Gerllaw | Cefnfor India, Y Môr Java |
Yn ffinio gyda | Dwyrain Jawa, Daérah Istiméwa Yogyakarta, Gorllewin Jawa |
Cyfesurynnau | 7.5°S 110°E |
Cod post | 50xxx, 51xxx, 52xxx |
ID-JT | |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Central Java |
Pennaeth y Llywodraeth | Ganjar Pranowo |
Mae'r dalaith yn ffinio ar daleithiau Gorllewin Jawa yn y gorllewin a Dwyrain Jawa yn y de, tra mae Ardal Arbennig Yogyakarta yn cael ei hamgylchynu gan y dalaith. Yn y gogledd, mae'n ffinio ar Fôr Jawa ac yn y de ar Gefnfor India. Ceir nifer o losgfynyddoedd yma, yn cynnwys Mynydd Merapi a Mynydd Merbabu. Mae'r tir yn ffrwythlon, a thyfir reis ar draws ardal helaeth o'r dalaith. Mae dinasoedd y dalaith yn cynnwys Magelang, Pekalongan, Salatiga, Semarang, Surakarta a Tegal.
Mae'r dalaith yn cynnwys temlau hanesyddol Borobudur a Prambanan, y ddwy ynSafle Treftadaeth y Byd.
Taleithiau Indonesia | |
---|---|
Aceh | Ardal Arbennig y Brifddinas Jakarta | Ardal Arbennig Yogyakarta | Bali | Bangka-Belitung | Banten | Bengkulu | Canolbarth Jawa | Canolbarth Kalimantan | Canolbarth Sulawesi | De Kalimantan | De Sulawesi | De Sumatra | De-ddwyrain Sulawesi | Dwyrain Jawa | Dwyrain Kalimantan | Dwyrain Nusa Tenggara | Gogledd Maluku | Gogledd Sulawesi | Gogledd Sumatra | Gorllewin Jawa | Gorllewin Kalimantan | Gorllewin Nusa Tenggara | Gorllewin Papua | Gorllewin Sulawesi | Gorllewin Sumatra | Jambi | Lampung | Maluku | Papua | Riau | Ynysoedd Riau |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.