![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b2/Master_James_statue_at_Beaumaris_Castle.jpg/640px-Master_James_statue_at_Beaumaris_Castle.jpg&w=640&q=50)
James o St George
pensaer Ffrengig a aned yng Nghymru / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pensaer milwrol Edward I, brenin Lloegr oedd Jacques de Saint-Georges d'Espéranche neu James o St George (tua 1230 - 1309). Cafodd ei eni yn Saint-Prex sydd bellach yn rhan o Vaud yn y Swistir. Roedd yn frodor o Savoie, rhanbarth hanesyddol sy'n cynnwys rhannau o'r Swistir, Ffrainc a'r Yr Eidal erbyn hyn.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
James o St George | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | c. 1230 ![]() Saint-Prex ![]() |
Bu farw | 1309 ![]() Mostyn ![]() |
Dinasyddiaeth | Cymru, Safwy ![]() |
Galwedigaeth | pensaer ![]() |
Adnabyddus am | Yverdon-les-Bains Castle ![]() |
Cau
Roedd James yn cael ei ystyried fel pensaer milwrol pennaf ei gyfnod. Cynlluniodd sawl castell consentrig, er enghraifft Castell Caernarfon, Castell Harlech, Castell Conwy a Chastell Biwmares yng ngogledd Cymru[1]. Roedd yn gwnstabl cyntaf Castell Harlech, hefyd.