James Redmond
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae James William Forbes Redmond (ganed 24 Tachwedd 1971) yn actor Seisnig. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Cliffton. Ar hyn o bryd, mae'n byw ym Mryste.
James Redmond | |
---|---|
Ganwyd | 24 Tachwedd 1971 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, cyflwynydd, cyflwynydd teledu, actor teledu |
Daeth Redmond yn enwog pan ddechreuodd fodeli yn Ebrill 1994, wedi iddo gael ei ddarganfod gan chwiliwr modelau ar gyfer Calvin Clein ym Milan. Ar ôl nifer o flynyddoedd fel model, penderfynodd ddilyn gyrfa ar y sgrîn fach. Ymddangosodd ar gyfres o hysbysebion ac yna derbyniodd ran ar gyfer Sianel 4, "Hollyoaks".
Ar ôl cyfnod aflwyddiannus yn cyflwyno SMTV Live ar ITV, derbyniodd ran yn y gyfres ddrama nwydus, "Mile High". Daeth yn fwy enwog am chwarae rhan John 'Abs' Denham yn nrama meddygol y BBC, "Casualty". Ers hynny, mae ef gadael y gyfres a gwelwyd ei berfformiad olaf ar y 18fed o Hydref 2008.