From Wikipedia, the free encyclopedia
Dramodydd a sgriptiwr o Wrwgwái oedd Jacobo Langsner (23 Mehefin 1927 – 10 Awst 2020).
Ganed ef yn Rwmania, a symudodd ei deulu i Wrwgwái ym 1930 pan oedd Jacobo yn dair oed. Cychwynnodd ar ei yrfa yn y theatr ym Montevideo yn 20 oed, ac ymhlith ei weithiau cynnar oedd El hombre incompleto (1951), El juego de Ifigenia (1953), a Los artistas (1953). Ymsefydlodd Langsner ar ochr draw'r Río de la Plata, yn Buenos Aires, ym 1958, a daeth yn ffigur blaenllaw yn y theatr Archentaidd yn ogystal â'r theatr Wrwgwaiaidd.[1]
Ei ddrama enwocaf oedd Esperando la carroza, a berfformiwyd am y tro cyntaf yn theatr y Comedia Nacional ym Montevideo ar 12 Hydref 1962. Cafodd ei haddasu'n ffilm gomedi boblogaidd ym 1985, wedi ei chyfarwyddo gan yr Archentwr Alejandro Doria. Cafodd Langsner lwyddiant mawr arall gydag El tobogán ym 1970.[1]
Wedi i'r jwnta filwrol gipio grym yn yr Ariannin ym 1976, aeth Langsner yn alltud i Fadrid, Sbaen, nes iddo ddychwelyd wyth mlynedd yn ddiweddarach yn sgil cwymp y jwnta.[1] Ymhlith ei ddramâu diweddar mae De mis amores (1992), Otros paraísos, a Damas y caballeros (2004). Ysgrifennodd hefyd nifer o sgriptiau ar gyfer y teledu a'r sinema, gan gynnwys y ffilmiau Darse cuenta (1984, gydag Alejandro Doria) a Cohen vs. Rosi (1998). Bu farw Jacobo Langsner yn Buenos Aires yn 93 oed.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.