Isometreg
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mewn mathemateg, mae isometreg yn drawsffurfiad lle cedwir yr hyd (neu'r pellter) rhwng y gofod metrig heb ei newid.[1] Mewn geiriau eraill, mae isometreg yn drawsffurfiad sy'n mapio elfennau o un gofod metrig i un arall, gan barchu hyd y gofod a geir rhwng yr elfennau, yn union. Mewn gofod Euclidaidd 2 a 3 dimensiwn, os yw dau ffigur (neu ddau siâp) yn perthyn i'w gilydd drwy isometreg, yna dywedir eu bod "yn gyfath". Mae'r berthynas hon, sy'n eu cysylltu, naill ai'n symudiad anhyblyg, neu'n adlewyrchiad.[2]
Mae'r gair Groegaidd isos yn golygu "hafal", sy'n cyfeirio at y pellter rhwng yr elfennau.