![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/24/Ismail_Kadare_%2528portret%2529.jpg/640px-Ismail_Kadare_%2528portret%2529.jpg&w=640&q=50)
Ismail Kadare
From Wikipedia, the free encyclopedia
Nofelydd, bardd, ac ysgrifwr o Albania yn yr iaith Albaneg oedd Ismail Kadare (28 Ionawr 1936 - 1 Gorffennaf 2024).[1]
Ismail Kadare | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 28 Ionawr 1936 ![]() Gjirokastra ![]() |
Bu farw | 1 Gorffennaf 2024 ![]() o trawiad ar y galon ![]() Mother Teresa Hospital, Tirana ![]() |
Dinasyddiaeth | Albania, Ffrainc, Cosofo ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, nofelydd, cyfieithydd ![]() |
Swydd | Aelod o Senedd Albania ![]() |
Adnabyddus am | Gjenerali i ushtrisë së vdekur, The Castle, Chronicle in Stone, Broken April, The Three-Arched Bridge, The File on H., The Palace of Dreams ![]() |
Prif ddylanwad | Italo Calvino ![]() |
Priod | Helena Kadare ![]() |
Plant | Besiana Kadare ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Tywysog Asturias, Gwobr Herder, Prix mondial Cino Del Duca, Gwobr Ryngwladol Man Booker, Gwobr Jeriwsalem, Gwobr Ryngwladol Nonino, Commandeur des Arts et des Lettres, Uwch Swyddog y Lleng Anrhydedd, Gwobr Ryngwladol Llenyddiaeth Neustadt, Order of the National Flag, Honor of Nation Order, Q126416286, Q126416283 ![]() |
llofnod | |
![]() |
Ganed ef yn Gjirokastër, Teyrnas Albania, yn fab i weithiwr yn y swyddfa bost. Astudiodd ym Mhrifysgol Tirana a chychwynnodd ar ei yrfa lenyddol drwy gyhoeddi cyfrolau o farddoniaeth. Aeth i'r Undeb Sofietaidd ym 1958 i astudio yn Athrofa Llên Fyd Gorki ym Moscfa, a dychwelodd i Albania ym 1960 i weithio yn newyddiadurwr. Enillodd enw rhyngwladol am ei nofel gyntaf, Gjenerali i ushtrisë së vdekur ("Cadfridog y Fyddin Farw", 1963), sydd yn ymwneud â chadfridog ac offeiriaid o'r Eidal yn chwilio am gyrff milwyr a fu farw yn Albania yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ysgrifennodd sawl nofel hanesyddol, gan gynnwys Kështjella ("Y Castell", 1970), am wrthryfel Skanderbeg yn erbyn yr Otomaniaid yn y 15g, ac Ura me tri harqe ("Y Bont Deirbwa", 1978)
Ffoes Kadare i Ffrainc ym 1990.