From Wikipedia, the free encyclopedia
Pont sy'n croesi Afon Hafren yn Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw'r Iron Bridge. Agorwyd ym 1781, dyma'r bont fawr cyntaf (mwy na 100 troedfedd (30.5 medr) o hyd) i'w hadeiladu o haearn bwrw.[1]
Math | pont bwa dec, pont ffordd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1 Ionawr 1781 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Ironbridge |
Sir | The Gorge |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.6273°N 2.48542°W |
Cod OS | SJ6723803396 |
Hyd | 60 metr |
Rheolir gan | English Heritage |
Perchnogaeth | English Heritage |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Historic Civil Engineering Landmark |
Manylion | |
Deunydd | Haearn bwrw, puddled iron |
Roedd y bont yn garreg filltir bwysig yn hanes peirianneg. Mae'n adeilad rhestredig Gradd I ac mae'n sefyll yng Ngheunant Ironbridge, sydd ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd ers 1986.[2]
Dechreuodd Abraham Darby I doddi mwyn haearn lleol gyda côc a wnaed o glo Coalbrookdale ym 1709, ac yn y degawdau nesaf daeth yr ardal yn ganolfan ddiwydiannol bwysig. Defnyddiwyd Afon Hafren ar gyfer cludo deunyddiau, ond roedd y Ceunant Afon Hafren yn rhwystr rhwng tref Broseley i'r de o'r afon a Madeley a Coalbrookdale i'r gogledd. Roedd angen pont uchel gyda dim ond un rhychwant oherwydd bod yn rhaid i longau uchel basio o dan.
Ym 1773 awgrymodd y pensaer Thomas Farnolls Pritchard adeiladu pont a wnaed o haearn. Yn y pen draw, cyflawnwyd ei gynllun, a chafodd y cydrannau eu gwneud yng ngwaith haearn Coalbrookdale ym 1777-79. Agorwyd y bont i draffig yn 1781.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.